Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yr efengyl gyda deheurwydd arbenig, ac "fel
ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nef-
oedd." Eglurai natur cyfamod y prynedig-
aeth a sefyllfa y Personau Dwyfol yn y cyf-
amod hwnw, nes byddai canoedd o'i wran-
dawyr yn credu ac yn llawenhau. Meddai
syniadau goleu-bwyll ar y ddeddf a'i gofyn-
ion manol, sefyllfa druenus dyn yn ngwyneb
y ddeddf hono, yn nghyd â threfn fendigedig
y Duwdod i gyfiawnhau pechadur euog.
Dyma ei hoff bynciau; yn y pethau hyn y
byddai ei enaid ef ei hun yn mwynhau yr
hyfrydwch mwyaf, ac o honynt yr arlwyai
wleddoedd danteithiol i'w wrandawyr. Pre-
gethai weithiau ar bynciau ereill, ac ni
theimlai un gwrthwynebiad i bregethau ym-
arferol, er mai yn athrawiaethol yr arferai
efe bregethu. Ei amcan mawr yn ei holl
bregethau oedd symbylu awydd yn ei wran-
dawyr i ystyried ac amgyffred gwirioneddau
yr efengyl, ac felly, eu cael i weithredu
oddiar argyhoeddiad, i "rodio yn y goleuni;"
ac arferai ddyweyd yn aml mai i'r graddau
y byddai y Cristion yn myfyrio ar, ac yn
deall trefn iachawdwriaeth, y byddai yn alluog
i fwynhau ei chysuron. Lluddid ef gan ei
fasnach i deithio llawer gyda'r weinidogaeth;
gan hyny, cyfyngid ei lafur yn benaf i
sir Gaerfyrddin, a'r rhan isaf o sir For-
a rhoddai lawer iawn o'i lafur
ganwg;
i'r eglwysi gweiniaid yn y cylch uchod, heb
gymeryd unrhyw gydnabod am ei wasanaeth.
Felly hefyd y rhoddes efe ei wasanaeth i'r
eglwys yn Llanelli, heb gymeryd unrhyw
gydnabyddiaeth, hyd o fewn ychydig flyn-
yddoedd i'w farwolaeth, pan y trodd am-
gylchiadau ei fasnach yn annymunol, yr hyn
a achlysurwyd trwy roddi gormod o ymddir-
ied i fan-fasnachwyr, fel y cafodd golledion
dirfawr oddiar eu dwylaw; yr hyn a fu yn
brofedigaeth chwerw iddo, ac yn llawer o
rwystr i'w lafur gweinidogaethol yn ei hen
ddyddiau. Yr oedd Mr. Bowen yn fawr ei
ofal am achos y Gwaredwr yn ei holl ranau,
yn enwedig yn gartrefol; fel ag y cafodd
Methodistiaid Llanelli eu gwasanaethu yn
dra ffyddlawn ganddo. Byddai yn dra ad-
eiladol yn y cyfeillachau eglwysig, lle y
byddai ei ymddiddanion efengylaidd yn swyno
serchiadau, yn toddi calonau, ac yn asio
teimladau pawb yn un; ac aml y clywid
hen bererinion Seion, wrth ddychwelyd o'r
cyfryw gyfarfodydd, yn llongyfarch eu gilydd,
gan ddywedyd, "Da iawn oedd i ni fod yno.'
Cyfarchai ieuenctyd yr eglwys yn fynych, ac
amlygai ofal mawr am danynt, a dyddordeb
mawr ynddynt; gan ymlawenhau yn fawr
pan y gwelai arwyddion arnynt eu bod yn
sychedig am wybodaeth fuddiol, gan eu
hanog yn dra thyner i fod yn ddiflino yn eu
llafur am wybodaeth. Ac yr oedd yn dra
selog dros yr ysgol Sabbathol, gan gydnabod
ei gwasanaeth effeithiol i lefeinio y genedl à
gwybodaeth ysgrythyrol; fel mai anhawdd a
fyddai i neb gael esgus a'i boddlonai dros
beidio dyfod iddi. Rhoddai bob cefnogaeth
hefyd i'r ieuenctyd yn enwedig, i fod yn
effro ac ymdrechgar gyda'r yagol gån, er
36
BOW
cyfaddasu eu hunain i gymeryd rhan yn
nghaniadaeth y cysegr, gan ganu â'r deall,
a chanu A'r ysbryd hefyd. Cynysgaeddwyd
ef à llawer o'r peth gwerthfawr a elwir
synwyr cyffredin, ac à meddwl bywiog a
threiddgar. Yr oedd rhyw fawredd naturiol
arno, fel nad allai dyeithriaid ddyfod yn rhy
agos ato; er hyny, nid rhyw goegedd, neu
daiogrwydd furfiol oedd hyn, ond addurn
naturiol. Ni byddai un amser yn amleiriog
ac ysgafn; ond yr oedd rhyw foneddigeidd-
rwydd yn ei holl ymddygiadau; ac er fod
hyn, efallai, yn peri i ambell un farnu ei fod
yn anghyfeillgar, efe a wellai wrth ymarfer
ag ef, a'r rhai a'i badwaenent oreu a'i
parchent yn fwyaf, ac a'i carent yn wresocaf.
Byddai yn dra gochelgar yn newisad ei gyf-
eillion; ac ni chai neb dderbyniad i gysegrfa
ei fynwes cyn ei brofi; ond wedi y dewisai
un yn gyfaill unwaith, parhai yn ffyddlawn
i hwnw; ac yn mysg ei gyfeillion, yr oedd
yn siriol, rhydd, a difyrus; ar yr un pryd,
nid mynych y gwelid ei ragorach am gadw
cyfrinach, a ffrwyno ei dafod.
Meddai ym-
ddiried trwyadl yr eglwys; oblegyd ni weith-
redai un amser oddiar dystiolaeth unochrog,
ac ni feithrinai ysbryd plaid, ond ymestynai
at uniondeb bob amser, heb ofni gwg y naill,
na chymeryd ei gamarwain gan wenau
Illall. Yr oedd yn Gristion call a thangnef-
eddus, a thrwy ei ymddygiad doeth, efe a
alluogwyd i fyw mewn heddwch yn wastadol.
Ni chafodd Mr. Bowen hir gystudd, ond yr
oedd arwyddion amlwg er ys hir ainser fod
ei ddaearol dy o'r babell hon yn dadfeilio,
a'i ysbryd yn aeddfedu i wlad well. Byddai
yn codi o'i wely dros ryw ysbaid, fyn-
ychaf bob dydd, ac yn cymdeithasu yn siriol
A'r cyfeillion a ymwelent ag ef. Yr oedd
adeg Cymdeithasfa Llanelli yn agosau, ac yr
oedd yntau, er ei lesgedd, yn ddiwyd yn
trefnu ar ei chyfer, gan ymohebu ag amryw
frodyr anwyl yn y weinidogaeth, er sicrhau
eu presenoldeb a'u gwasanaeth ar yr achlysur;
ac anogai ei frodyr, gyda dwysder, i weddio
am bresenoldeb y Meistr gyda'i weision; gan
gwyno fod yr eglwysi yn oeri a'r byd yn
caledu. Daeth y gymanfa; ac yntau yn
parhau i lesgau, er hyny mynodd gael ei
ddwyn i'r gymdeithas neillduol yr ail ddydd;
ond ni allodd aros yno nemawr; a dyma y tro
diweddaf y bu efe allan. Ymwelai ychydig
o'r cyfeillion ag ef nos Sabbath, y 15ed o
Awst, pan yr ymddangosai yn fywiog a
siriol dros ben, a mwynhasant gymdeithas
felus a buddiol gydag ef. Tybiai yntau ei
hunan ei fod ar wellau, ac y caniatâi yr Ar-
glwydd estyniad dyddiau iddo dros ychydig
yn mhellach. Parai i'r holl deulu fyned i
orphwys y noson hono, ond yn blygeiniol
iawn boreu dranoeth deallodd fod rhingyll
marwolaeth wedi dyfod i'w wysio; cyfododd
o'i wely ac aeth i'r ystafell nesaf at ei wraig,
eisteddodd ar echwyn y gweiy, dododd ei ben
i orwedd ar ei mynwes, a dywedodd, "Y
mae yr awr wedi dyfod !"-yna hunodd yn
yr Iesu, Awst 16eg, 1852, a'i gorff a gladd-
wyd gerllaw y Capel Newydd, y lle a gys-