Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

chael adnewyddiad nerth iddo ei hun. Yr
oedd eglwys Heol Awst, Caerfyrddin, ar y
pryd, yn edrych allan am un i fod yn gyd-
weinidog ac i gydlafurio â'r hybarch Mr.
Peter. Ar ol iddynt glywed Mr. Breese yn
pregethu, penderfynasant wneud cais am ei
gael ef i lenwi y sefyllfa hono. Ar ol iddynt
ymddiddan a'u gilydd yn nghylch y peth, a
thrwy gydsyniad o bob tu, rhoddasant alwad
unfrydol a rheolaidd iddo ddyfod yn gydfugail
a'r Parch. D. Peter. Ac er mor boenus i'w
deimladau oedd ymadael â'i frodyr yn Llyn-
lleifiad, barnodd mai ei ddyledswydd oedd
cydsynio a'r alwad. Ymadawodd â Llynlleif-
iad, maes ei lafur am ddeunaw mlynedd, ac â'i
blant yn yr efengyl, gan mwyaf oll, a symud-
odd i Gaerfyrddin yn mis Ionawr, 1835. Ar
ol ei symudiad efe a lafuriodd yn ffyddlon ac
egniol iawn yn y weinidogaeth yn ei faes new-
ydd, a chyda mesur helaeth o lwyddiant, hyd
ddechreu y flwyddyn 1842, pan orfodwyd ef
gan afiechyd i roddi heibio pregethu; ac ar yr
8fed o Awst yr un flwyddyn, ymadawodd a'r
byd siomedig hwn, ac ehedodd ei enaid i'r
gwynfyd pur, a'r anfarwoldeb digyfnewid, pan
tua 52 mlwydd oed, a'r bumed flwyddyn ar
hugain o'i weinidogaeth. Fel dyn, yr oedd
Mr. Breese yn ewyllysgar, hynaws, a thyner,
efallai i raddau gormodol. Yr oedd yn gwbl
ddiddichell. Yr oedd yn un gwresog a bywiog
iawn dros egwyddorion gwir grefydd, ac yn
byw o dan eu hargraffiadau ar ei feddwl. Yr
oedd yn llawn tymherau da, aiddgarwch, cyf-
eillgarwch, a haelfrydigrwydd, a thrwy ei dyb-
iaeth dda o bawb ereill, a hyder ynddynt, dyg-
odd ei hun rai gweithiau i radd o ofid. Iach-
awdwriaeth pechaduriaid colledig trwy aberth
iawnol y groes oedd canolbwynt ei weinidog-
aeth. Mawredd person y Cyfryngwr, a gras-
lonrwydd yr holl drefn ogoneddus, oeddynt ei
brif a'i hyfryd destunau. Yr oedd efe yn dra-
ddodwr hwylus, bywiog, a galluog-yn hoffus
iawn gan y gwrandawyr ei glywed yn mhob
man y byddai yn pregethu. Dywedir fod cryn
lawer o ffrwyth ei feddyliau, wedi eu gadael
ar ei ol mewn ysgrifen; ond nis gwyddom a
ydynt mewn sefyllfa addas i'w rhoddi i'r cy-
oedd trwy y wasg ai peidio. Ni phregethodd
neb holl ddyledswydd dyn, a holl gyngor Duw
gyda mwy o ffyddlondeb a chysondeb nag ef.
Gellir olrhain ei lwyddiant i'r ffynhonell hon-
ei fod yn pregethu y gwir fel y mae yn yr
Iesu. Y mae adsain y llwyddiant hwnw yn
dywedyd wrth bob gweinidog a adawodd
ar ei ol, "Dos dithau, a gwna yr un
modd." Yr oedd Mr. Breese yn briod &
merch y diweddar David Williams, Yswain,
gynt o Saethon, sir Gaernarfon, yr hon a
adawodd yn weddw gyda chwech o blant
ymddifaid, i alaru eu colled. Prif anfantais
Mr. Breese fel pregethwr oedd diffyg meddwl
clir; a'i brif ragoriaeth oedd nerth anorch-
fygol ei ergydion.
BREESE, SAMUEL, Castellnewydd, a an-
wyd yn mhlwyf Llanddinan, yn agos i Lan-
idloes, sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1772, o
rieni parchus yn y gymydogaeth hono. Yr
oedd gan ei rieni amryw blant. Yr oedd ei dad yn saer troliau, ac yn dal tyddyn bychan.
Pan yn wyth mlwydd oed, tarawyd ef & dolur
yn ei glun, yr hon a barhaodd yn boenus iawn
iddo dros hir amser. Ni thyfodd mewn hyd
wedi hyny; ac yr oedd yn llawer meinach na'r
llall, fel yr oedd yn hollol ddiddefnydd iddo;
a gorfu iddo gerdded ar bwys ffon fagl hyd
ddiwedd ei oes. Ond trwy iddo ddechreu yn
ieuanc, medrai ymsymud gyda buandra neill-
duol. Esgynai yn rhyfeddol o gyflym ar gefn
ei geffyl, megys ar ehedlam chwimwth. Ym-
hyfrydai llawer ei weled yn esgyn felly, o her-
wydd ei gyflymdra fel meistr ar y gorchwyl.
Ei ond ef o ran corffolaeth oedd ei goes fach.
Yr oedd cyfansoddiad pob rhan arall o'i gorff
yn wrol, gweddlus, cymesur, a gwisgi; yn all-
uog i lamu trwy y fyddin, a neidio dros y
mur, ac a'i freichiau ddryllio y bwa dur. Y
mae doethineb rhagluniaeth y nef yn ganfydd-
adwy yn gosod y naill beth ar gyfer y llall, er
mantoli y glorian, rhag i ben blinder a chys-
tudd orbwyso pen llawenydd a diddanwch i'r
llawr yn hollol. Bu cloffni Breese yn foddion
i gynhyrfu ei rieni i roddi mwy o ddysgeid-
iaeth iddo nag a gawsai oni buasai hyny. Trwy
ei ddiwydrwydd yn yr ysgol, daeth yn rhif-
yddwr ac ysgrifenydd da iawn. Cymhwysodd
hyn ef i enill ei fywiolaeth yn foreu, trwy
gadw ysgol; yr hyn a ystyriai yn fraint fawr,
gan fod ei gloffni wedi ei anaddasu i'r rhan
amlaf o orchwylion ereill. Yr oedd efe dan
argraffiadau crefyddol er yn ieuanc, pan oedd
gartref gyda'i rieni. Derbyniwyd ef yn aelod
gyda'r Bedyddwyr, yn y Ďole. sir Faesyfed,
yn y flwyddyn 1793, pan yn un ar hugain oed.
Symudodd oddiyno i'r Penrhyncoch, i gadw
ysgol, yn Medi, 1794; a dechreuodd bregethu
yno yu 1795, pan oedd y diweddar Barch.
T. Evans yn weinidog yn Aberystwyth, Pen-
rhyncoch, a Thalybont. Efe a aeth agos ar un-
waith yn bregethwr poblogaidd. Deallodd yr
eglwys wedi ei glywed y waith gyntaf yn pre-
gethu, mai dyn wedi cael ei eneinio & doniau
mwy effeithiol na chyffredin ydoedd; oblegyd
yr oedd rhyw fywyd a llawenydd pa le bynag
y byddai, mewn cyfeillach ac yn yr areithfa.
Cyn hir galwodd y brodyr yn Aberystwyth of
i gadw ysgol yno, a glynodd wrth y gwaith
amryw flynyddau gyda diwydrwydd a chymer-
adwaeth mawr gan rieni y plant oedd dan ei
ofal. Cytunodd yr eglwysi yn Aberystwyth,
Penrhyncoch, a Thalybont, ei urddo yn gyd-
weinidog â'r Parch. John James, yr hyn a
gymerodd le Mehefin 12, 1803, a buont yn
cydweinidogaethu dros rai blynyddau, ac yn
cyd-dynu mewn cariad. Yn ystod yr amser
hwn daeth rhyw gymaint o drefn ac ysbryd
Sandemaniaeth i mewn i'w plith; ac fel y
mae y trefniant hwnw yn dilladu ei hun mewn
gwisg mor ysgrythyrol, nid rhyfedd iddi gael
gafael yn meddwl Mr. Breese i ryw raddau;
ond nid aeth efe i ysbryd y trefniant yn rhy
ddwfn i gyfodi; am hyny cafodd iawn hwylio
ei syniadau, a'u dwyn i wastadrwydd yn lled
fuan, a gwaredwyd yr eglwys rhag dinystr.
Tra yr arosodd Mr. Breese yn Aberystwyth,
byddai yn ymweled a'r gogledd yn amser y
cymanfaoedd dros amryw flynyddoedd ; ac yr
Q