galw "yr ynys bellaf o'r gorllewin." A dy-
wed Eusebius i rai o'r apostolion groesi y mor
i'r Ynysoedd Prydeinig. Hieronymus hefyd
a ddywed, i Paul ar ol iddo fod yn Hisbaen,
fyned o for i for, a phregethu yr efengyl yn yr
ardaloedd gorllewinol. Ac mewn lle arall y
mae yn arwyddocau ei fod yn cyfrif Prydain
yn mhlith yr ardaloedd gorllewinol. Y neb a
ddymuno weled ychwaneg ar hyn darllened
waith archesgob Usher, a'r esgobion Stiling-
fleet, Godwin, Burgess, Stephen, Merthyr, &c.
BRECHFA, IEUAN, ydoedd fardd enwog,
hanesydd ac achydd o sir Gaerfyrddin; yr hwn
a fu farw, yn ol y Cam. Biog. tua O.C. 1500.
Y mae crynodeb byr o Hanesiaeth Gymreig
ganddo, wedi ei argraffu yn yr ail gyfrol o'r
Myvyrian Archaiology.
BŘEESE, JOHN, Caerfyrddin, a anwyd
yn Llanbrynmair, Medi, 1789; a disgynodd
gofal ei ddygiad i fyny ar ewythr a modryb
iddo, y rhai a ymddygasant tuag ato fel un
o'u plant eu hunain. Er hyny, yr oedd eu
sefyllfa yn eu gorfodi i'w ddwyn i fyny mewn
llawer o anfanteision iddo amlygu na derbyn
nemawr feithriniad i'w alluoedd meddyliol a
moesol yn ei ddyddiau ieuengaidd, fel y buasai
yn ddymunol. Mwynhaodd freintiau yr ysgol
Sabbathol er yn foreu, a dangosai fywiogrwydd
a blaenoriaeth yn ngorchwylion hono uwchlaw
y cyffredin, fel y tynai sylw hyd yn nod y di.
weddar Mr. Charles o'r Bala, yn ei waith yn
holi yr ysgol gerllaw y lle y trigai Mr. Breese
y pryd hwnw. Pan oedd tuag un ar ugain
oed daeth i wasanaethu i Gwmcarnedd-uchaf,
at amaethwr cyfrifol a duwiol, gerllaw Hen
Gapel Llanbrynmair, ac ymunodd yn fuan å'r
eglwys a ymgyfarfyddai yno dan ofal y di-
weddar Barch. J. Roberts. Yr oedd Mr.
Hughes, yr amaethwr, gyda'r hwn y gwasan-
aethai Mr. Breese, yn wr craffus, ac yn cadw
Bylw manwl ar gymeriad y rhai oedd yn ei
deulu; efe a ganfyddodd fod defnyddiau yn ei
was, a chymwysderau i wasanaeth uwch, ac i
droi mewn cylch gwahanol i'r hwn yr oedd.
ynddo y pryd hwnw, ac a'i dygodd i sylw yr
eglwys. Ar ol i'r eglwys gael prawf bodd-
haol o'i dduwioldeb, cywirdeb ei amcan, ei
ymroddiad i waith y weinidogaeth, ei lafur am
wybodaeth, a'i ddoniau, anfonwyd ef i'r
athrofa, i Lanfyllin, ac oedd y pryd hwnw dan
ofal yr hybarch George Lewis, D.D., ar ol iddo
fod am ryw ychydig amser mewn ysgol rag-
barotoawl yn yr Amwythig. Yr oedd efe y
pryd hwnw tua phedair blwydd ar ugain oed.
Yn fuan ar ol myned yno, dadblygwyd eang-
der galluoedd ei feddwl, a helaethrwydd ei
ddoniau gweinidogaethol, fel y cafwyd rhag-
arwyddion digonol ac eglur o'i enwogrwydd
dyfodol. Hynododd ei hun yno am ei sylw
diflino o'r dyledswyddau athrofaol, ac ystyrid
ef yn fyfyriwr caled. Ei lafur achlysurol tra
yn yr athrofa a fendithiwyd yn neillduol. Ei
ragoriaethau a'i hynodrwydd mwyaf y pryd
hwnw oedd ei ddawn fel pregethwr, ac uchel-
edd ei feddylddrychau duwinyddol. Rhai o'i
bregethau yr amser hwnw a gynyrchasant yr
argraffiadau dwysaf a'r effeithiau mwyaf dy-
munol ar feddyliau llawer a'u gwrandawent.
y
Yr effaith doddiadol a ddylynodd un bregeth
oddiar Phil. i. 23, yr hon a bregethodd ar
brydnawn Sabbath i gynulleidfa luosog, mewn
buarth cysgodol o flaen ffenestr ystafell dynes
dduwiol oedd ar ei gwely angeu, ydoedd
dra hynod a bythgofiadwy. Gellid nodi amryw
engreifftiau cyffelyb o ddylanwadau anghy-
ffredin yn gydfynedol a'i weinidogaeth. Y mae
yn ddywediad cyffredin, ac a wirir yn fynych,
mai fel y bydd y myfyriwr y bydd y gwein-
idog. Os bydd y myfyriwr yn ymroddi i
segurdod-i wasanaethu ei flys a'i nwydau ei
hun-i ysgafnder, coegni, yamaldod, a di-
ofalwch, heb fod yn ymroddi i lafur am
wybodaeth a medr i fod yn ddefnyddiol, nid
yw yn debygol y gwna y cyfryw weinidog
defnyddiol a llwyddianus. Byddai Mr. Breese
bob amser yn ymdrechgar i feithrin ysbryd
cyhoeddus a hunanymwadol, aiddgarwch,
duwiolfrydedd, ymegniad i rodio gyda Duw,
a diwydrwydd yn yr ymarferiad o bob modd-
ion cyraeddadwy iddo eangu y meddwl, a
chynyddu mewn deall a gwybodaeth, yr hyn
a'i gwnaeth i lewyrchu mor danbaid yn y
weinidogaeth. Cyn terfynu yr amser rheol-
aidd yn yr athrofa, darbwyllwyd ef i adael
coleg a derbyn galwad oddiwrth gynulleidfa
fechan ag oedd y pryd hwnw yn ymgynull i
addoli Duw yn Edmond-street, Llynlleifiad.
Ni chynwysai yr eglwys ond tri ugain o
aelodau, a'r gwrandawyr mewn cyfartalwch
yn ychydig o nifer. Cafodd ei urddo yn wein-
idog yr eglwys hono yn y flwyddyn 1817. Ond
wedi iddynt symud i'r Tabernacl, yn Great
Cross Hall-street, cynyddodd yr eglwys mor
fawr fel y daeth yr adeilad helaeth hwnw
mewn ychydig flynyddau yn rhy gyfyng i
gynwys y gynulleidfa luosog a ddeuai dan ei
weinidogaeth, fel y gorfodwyd hwynt i adeiladu
addoldy arall yn Greenland-street; ac yn y
flwyddyn 1832, derbyniodd y Parch. T. Pierce
alwad i ddyfod yn gydweinidog åg ef, yr hwn
a barhaodd i lafurio yn llwyddianus yno hyd
ei fedd. Fel hyn y gwelodd gyflawniad o'r
broffwydoliaeth hono, "Y bychan fydd yn fil,
a'r gwael yn genedl gref; myfi yr Arglwydd
a brysuraf hyny yn ei amser. Cafodd y
Cymry yn Llynlleifiad eu bendithio yn fawr
trwy gael dyn a lafuriodd mor ddiflin er
dyrchafu achos rhinwedd a chrefyddolder yn
eu mysg. Ni chyfyngodd ei ymdrechion
ychwaith o fewn ei gylch uniongyrchol ei hun,
ond efe a drodd ei sylw at ei gydwladwyr yn
Manceinion, y rhai oeddynt yn amddifaid o
bregethiad yr efengyl yn eu hiaith eu hunain.
Talodd am ystafell i bregethu ac i gadw ys-
gol Sabbathol ynddi. Aml ar foreu dydd Llun,
y treuliai ei swllt diweddaf yno mewn elusen-
garwch; a thrwy hyny dygai ei hun dan yr
angenrheidrwydd caled o deithio yn ol i Lyn-
lleifiad ar ei draed. Parhaedd i lafurio yno
am flynyddau, a chafodd y llawenydd an-
nhraethadwy o weled ei ymdrechion wedi eu
coronillwyddiant mawr. Ond ei iechyd a
ddadfeiliai yn brysur dan y fath lafur. Yn y
flwyddyn 1834, pan oedd ei nerth a'i iechyd
wedi anmharu i raddau, efe a gymerodd daith
trwy y Deheudir er ymweled â'r eglwysi, a
Q
Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/49
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto