Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

BRO cyfieithad rhagorol o'r hon a geir yn y Llyfr Hymnau Wesleyaidd. Bu farw yn y flwyddyn 1818, yn 66 oed. (Evangelical Register, 1835-6.) BRENDA, sant, yr hwn oedd un o feibion Helig ab Glanawg. Cofleidiodd fywyd my- nachaidd pan oedd ei diriogaeth wedi ei gorllifo, yn y seithfed ganrif. Y mae dywediad yn y Myv. Arch. ii. 30, "Gwir a ddywed Sant Brenda, Nid llai cyrchir y drwg na'r da," BROCHWAEL YSGYTHROG, tywysog Powys, oedd fab Cyngen ab Cadell Deyrnllwg, a gofnodir fel llywydd y galluoedd Brytanaidd, dan Cadfan, yn mrwydr fythgofiadwy Caerlleon Gawr, O.C. 603. Gan fod nifer ei filwyr yn llawer llai, gorchfygwyd ef gan Ethelfrith, brenin Northumberland; a mynachod Bangor a laddwyd yn ol gorchymyn Awstin. Modd bynag, dialwyd llofruddiaeth y mynachod, a dinystriwyd y lle; oblegyd Brochwael, wedi cael cymorth y tywysogion Cymreig ereill, a ymosododd drachefn ar Ethelfrith, a gorch- fygodd ef yn hollol; lladdwyd dros ddeng mil o'r Saeson, a chafodd ef ei hunan ei glwyfo, a thrwy anhawsdra mawr y diangodd ymlidiad y gorchfygwyr. Cymerodd hyn le yn y flwydd yn 607. (Myr. Arch. ii. 363.) BRONWEN, merch Llyr, a chwaer Bran: gwrones, yr hon sydd yn gweithredu rhan am. lwg yn rhai o'r hen ffughanesion chwareuyddol. BROOMFIELD, MATHEW, bardd, a flo- deuodd oddeutu y flwyddyn 1550. Y mae rhai o'i ganiadau wedi eu dyogelu yn y casgl- iad o ysgrifeniadau perthynol i Gymdeithas Cymrodorion Llundain. BROTHEN, sant, un o feibion Helig ab Glanawg. Efe a ffurfiodd eglwys Llanfrothen, yn sir Feirionydd. Dydd ei wledd yw Hydref Dydd ei wledd yw Hydref 15. (Bonedd y Saint) BROWN, PARCH., RICHARD, y gwas enwog a ffyddlawn hwn i Grist, a anwyd Rhagfyr 11eg, 1817, mewn tyddyn bychan o'r enw Dyfnant, o fewn tua haner milltir i dref Llanidloes, yn sir Drefaldwyn, o rieni per- thynol i'r dosbarth gweithgar, ond yn rhai cyfrifol a pharchus, o'r enwau Thomas a Margaret Brown. Ei droedigaeth oddiwrth ei ffyrdd pechadurus, a'i ddychweliad at grefydd, sydd yn amgylchiad tra nodedig. Aeth ef, yn nghyd ag ereill o'i gyfoedion, un dydd Sabbath i chwilio am nythod adar, am yr hon weithred cafodd ei geryddu yn llym gan ei dad, a gorchymyn pendant nad elai mwy at y fath waith pechadurus ar ddydd yr Ar- glwyd; er hyny efe a anufuddhaodd, ac a gychwynodd boreu yr ail Sabbath i tyned at yr un weithred; ond cyn iddo fyned nepell oddiwrth ei aneddle, gwelai rywbeth ar ddull neu ffurf dyn, mewn gwisg wen, yn dyfod allan o hen foncyff pren, ac yn croesi afon fechan o'r enw Clywedog, i'w gyfarfod, ac yn dyfod at gamfa (stile) yr oedd ef i fyned drosti. Credodd yn y man mai ysbryd yd- oedd; yna dychwelodd yn ei ol yn ddychryn- edig iawn. Beth bynag ydoedd y peth a ym- ddangosodd iddo yn y modd a nodwyd sydd ddirgelwch, ond dios ei fod yn genad oddi- wrth yr Arglwydd i'w ddwyn ef i gofio ei Greawdwr yn nyddiau ei ieuenctyd, ac i frysio heb oedi i gadw ei orchymynion, yr hyn a fu yn dra boreu, o herwydd cafodd ei drochi mewn dyfroedd lawer ar broffes o'i ffydd yn Nghrist, yn ngwydd canoedd o dystion, pan oedd cydrhwng tair a phedair ar ddeg oed, ar un o ddyddiau Mab y dyn, yn mis Medi, yn y flwyddyn 1830, gan y Parch, W. L. Phillips, yn awr o America; a derbyniwyd ef yr un dydd i undeb a chymundeb yr eglwys Fedydd. iedig yn Llanidloes; a chafodd y fraint o ddal ei ffordd hyd y diwedd, a rhedeg ei yrfa ys- brydol gyda'r rhai glan eu dwylaw. Bu yn ffyddlawn hyd angeu; a chredwn yn ddiysgog ei fod ef wedi derbyn "coron y bywyd " yn wobr am ei ffyddlondeb, a'i fod heddyw yn mysg y rhai a brynodd y Prydferth ag sydd wedi myned adref i wlad yr hedd o fyd y cystuddiau, a'u gynau wedi eu canu yn ngwaed yr Oen. Gan ei fod yn meddu ar ddawn melus, ei ddeall yn eang, a'i ymarweddiad yn addas i'r efengyl, a'i gynydd mewn gras a gwybodaeth yn eglur i bawb, anogwyd ef gan y frawdol- iaeth i ymarfer ei ddawn mewn modd mwy cyhoeddus nag mewn gweddi. Cydsyniodd yntau â'u cais, a dechreuodd drwy gynghori yn y cyfeillachau neillduol, y cyrddau gweddi, a chyfarfodydd o'r cyffelyb natur; a'r bregeth gyntaf a draddododd ef i'r eglwys oedd oddiar y geiriau hyn," Pa leshad i ddyn os enill efe yr holl fyd a cholli ei enaid ei hun;" ac ym- ddengys iddo roddi cryn foddlonrwydd i'r frawdoliaeth ar y pryd. Y bregeth gyhoeddus gyntaf a draddododd oedd ar y Bryndu, yn nhy un o'r enw Valentine Hickins, rywbryd yn niwedd y flwyddyn 1836. Nid ydym yn cofio ei destun ar hyn o bryd, er ein bod yn ei wrandaw; ond hyn yr ydym yn ei gofio yn eithaf da, ein bod yn dyfarnu ei bregeth yn un unffurf iawn, ac yn un ragorol o dda o ran sylwedd a thraddodiad. Efe a draddododd ei bregeth brawf gyntaf oddiar Dad. i. 18, yu nghyfarfod trimisol Maesyberllan, a gynaliwyd Awst y 7fed a'r 8fed, 1838, a chymeradwywyd hi yn fawr gan y gweinidogion gwyddfodol. Anogwyd ef i arfer ei ddawn yn mhob man y celai alwad i lafurio; a bu o hyny allan yn ddefnyddiol a gwasanaethgar yn ei artref a'r eglwysi cylchynol. Yn mhen rhyw dalm o amser ar ol hyny efe a aeth i fyw i Rhoshir- wen, yn sir Gaernarfon; a bu yno am ddwy flynedd, neu, efallai, beth yn ychwaneg, yn cadw ysgol; ac hefyd yr oedd ef yn pregethu yno a'r cylchoedd oddiamgylch gyda chryn dderbyniad. Symudodd oddiyno drachefn i fyw i Fachynlleth, yn sir Maldwyn, lle y bu am tua dwy flynedd yn pregethu gyda der- byniad neillduol; a bu yr eglwys hono o'r bwriad unwaith i'w ordeinio yn weinidog arni, ond rhywfodd neu gilydd ni chymerodd byny le yno, eithr yn y cyfamser fe gafodd alwad oddiwrth eglwys Porthmadog, yn sir Gaernar- fon, a derbyniodd yntau y cyfryw, ac urddwyd ef yno Mehefin 22ain a'r 23ain, 1843. Bu yn lle hwn am tua dwy flynedd, ac yn ei amser ef yr adeiladwyd yr addoldy yno. Symudodd Q </poem>