Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oddiyno drachefn yn y flwyddyn 1845, i Ben-
ybont, Llandysil, yn sir Gaerfyrddin, a bu yn
y lle hwnw yn llwyddianus a pharchus am tua
thair blynedd. Rywbryd wedi iddo fyned
yno, daeth i'w feddwl mai nid da bod dyn ei
hunan felly, ac ymunodd mewn priodas ag un
o'r enw Miss Elisabeth Boston Child, trydedd
merch i T. Child, Ysw., Roseside, ger Nar-
berth, sir Benfro; ac ymddengys ei bod o
nodwedd y wraig y mae Solomon wedi ei dar-
lunio mor ardderchog, sef un “dda a rhin-
weddol," a bu ya ymgeledd gymwys iddo hyd
derfyn ei oes. Rywbryd yn y flwyddyn
1848, os nad ydym wedi camsynied y cyfnod,
symudodd oddiyno i fyw i'r Pil, yn sir For-
ganwg; a bu yn y lle hwnw am tua thair
blynedd, a bu cryn lwydd ar ei weinidogaeth
yno, oblegyd bedyddiodd lawer yn y man
hwuw; er hyny, symudodd oddiyno drachefn,
a hyny tua dechreu y flwyddyn 1851, i gy-
meryd gofal bugeiliol Penuel, Pentyrch, a
Bethlehem, Rhydfelen, yn y sir a nodwyd
ddiweddaf, yn yr hwn le y terfynodd ei
yrfa ddaearol, ar ol bod yn pregethu bedair ar
bumtheg o flynyddoedd, a thua deuddeg o'r
cyfryw yn y weinidogaeth rhwng pob man.
Yr oedd ef, o ran ei nodwedd fel dyn, yn un
hynaws a gostyngedig; fel tad a phriod, yn
hawddgar a thirion; fel proffeswr, yn hardd ei
rodiad; fel Cristion a'i ymarweddiad a'i brofiad
yn addurn i efengyl Duw ein Gwaredwr; ac
hefyd, yr oedd yn ddyn galluog, yn feddianol
ar alluoedd a meddwl grymus. Yr oedd ei
ddeall yn oleu a threiddgar; ei ddychymyg yn
fywiog, ffrwythlawn, a naturiol; a'i gof yn dda,
eang, a gafaelgar; ac yr oedd ef er yn fachgen
yn hyddysg iawn yn nghyfraith yr Arglwydd.
Gallai gyfansoddi pregethau ardderchog, ac yr
oeddynt bob amser yn fuddiol, eglur, call, ac
efengylaidd, a llawn unoliaeth dyben; ac hefyd
yn naturiol a threfnus, ac yn hollol wreiddiol
a pherthynasol iddo ei hun. Yr oedd yn meddu
ar fedr í drin ei destunau, a'u dosranu gyda
manylrwydd ac eglurder, a thraddodai ei
bregethau yn rhwydd, hylithr, melus, a pher-
aidd, er boddlonrwydd i'r gwrandawyr; a di-
lys y gellir dyweyd am dano yr unwedd ag
am Enoch, "Efe a rodiodd gyda Duw," ac
iddo "wylied arno ei hun ac ar yr athraw-
iaeth," ac iddo wneud "gwaith efengylwr."
Drwy ei ymdrechiadau didawl, a'i ddiwydrwydd
manwl a pharhaus, efe a gyraeddodd wybod-
aeth eang mewn pethau crefyddol, a fu o les,
yn fendith, ac yn anrhydedd iddo dros ei oes,
ac yn ddiau i ereill yr un modd. Y mae ef
heddyw mewn byd arall, wedi "goddiweddyd
llawenydd, a'i gystudd a'i alar wedi ffoi
ymaith." Yr oedd ei iechyd yn gwaelu, ei
babell briddlyd yn adfeilio, a'i gyfansoddiad
yn gwanychu, rai blynyddau cyn ei ymddatod-
iad; a bu am amryw fisoedd yn analluog i
bregethu ond ychydig. Mae yn debyg mai
gwely llaith oedd dechreuad ei anhwyldeb
corfforol, yr hwn, o dipyn i betb, ac o ychydig
i ychydig, a effeithiodd mor bell nes iddo
derfynu ei einioes yn yr angeu, yr hyn a fu
dydd Iau, Mawrth 8fed, 1855, yn 38 mlwydd,
ac yn agos i dri mis oed.

BRUTUS, oedd fab Silvius ac wyr Ysganus.
Pan tua phumtheng mlwydd oed bu yn achos
damweiniol o farwolaeth ei dad â'i fwa a saeth,
am yr hyn y cafodd ei yru o'r Eidal i dir
Groeg; ac yn mhen amser daeth ei werth i'r
amlwg drwy yr holl wlad, fel y darfu i'r holl
genedl droi ato yn erbyn gorthrwm y Groeg-
iaid; a chymerodd brwydr ofnadwy le rhyng-
ddo a'r genedl hono; ond yr oedd yn fudd-
ugol yn mhob rhyfel; a'r canlyniad fu, iddo
ddal brenin Groeg yn garcharor; yr hwn, am
ei ryddid, a ganiataodd Enogen ei ferch yn
wraig i Brutus, a llongau, a bwyd; gyda y
rhai y tiriodd Brutus yn Tatnes, yn sir Dyf-
naint, o fewn yr ynys hon. Yr oedd yn mhlith
y Groegiaid a nodasom rai o genedl Troia
mewn caethiwed, eithr a ryddhawyd gan
Brutus ar ei ddyfodiad yma. Cafodd yn y
wlad ryw nifer o ddynion a elwid yn Gawri,
ond a lwyrddifawyd gan filwyr Brutus.
peth cyntaf a wnaethant ar eu dyfodiad yma
oedd chwilio yr afonydd i gael gweled a oedd
pysgod ynddynt, ac wedi cael boddhad fod,
gwelsant y gallent fyw yma heb newynu;
yna, cerddasant y wlad o'r afonydd i'r môr,
nes iddynt gael lle addas, ar lanau y Tafwys, i
adeiladu dinas, yr hon 8 alwasant Troia
Newydd, er cof am yr hen Droia, yn Asia.
Enogen, merch brenin Groeg, oedd yn drallodus
gan hiraeth o herwydd mynediad o'i gwlad;
ond Brutus, yn dyner a charedig, a'i diddanai
hyd oni chysgodd yn ei freichiau gan flinder
yn wylo. Ganwyd i Brutus o'r wraig hon dri
o feibion, y rhai a gyfrifid yn benau cenedl,
sef Locrinus, Camber, ac Albanactus. Brutus,
yn mhen pedair blynedd ar hugain o'i ddyfod-
iad i'r yuys hon, a fu farw, ac a gladdwyd yn
ei ddinas ei hun, sef Troia Newydd. Ar ol
dyfodiad Brutus yma, efe a fynodd alw yr
ynys ar ei enw ei hun, sef Prydain, a'r genedl
berthynol iddi yn Brydeiniaid, a'u hiaith yn
Brydeinaeg. Dywed y Brut mai yn amser Eli,
offeiriad Judea, y daeth Brutus i'r wlad hon;
os felly, cawn ddyfodiad ein cenedl i Brydain
tua'r flwyddyn C.C., 1108 (Arch. of Wales,
tudal. 3,172.)

BRUTUS TARIAN LAS, oedd yr henaf o
ugain mab Efrog, seithfed brenin Prydain; yr
hwn, fel y dywedir, a ganlynodd i'r orsedd
oddeutu y flwyddyn C.C., 935. Efe a deyrn-
asodd ddeng mlynedd; a chanlynwyd ef gan
ei fab Lleon Gawr. (Myn. Arch. ii. 123.)
BRWYN, un o feibion Cynedda rhyfel-
wr enwog, a amddiffynai ei wlad yn erbyn
ymosodiadau y Sacsoniaid, a fu fyw yn y
bumed ganrif.

BRWYNLLYS, BEDO, yr hwn a gyfrifid
mhlith yr enwocaf o'r beirdd yn ei amser
ef. Yr oedd yn byw yn Brwynllys, Brychein-
iog, tua'r flwyddyn 1450. Heblaw cyfansoddi
niferi o ganiadau a ddyogelir mewn ysgrifau,
enwau a llinellau cyntaf dau ar bumtheg o
honynt a roddwyd yn y Greal, casglodd yn
nghyd i un gyfrol fawr weithiau y bardd
melus, Dafydd ab Gwilym, y rhai a wasgerid
dros bob parth o Gymru. Rhoddwyd y gyfrol
hono i gadw yn llyfrgell castell Raglan, yr
hwn a losgwyd yn amser Oliver Cromwell.
Q