Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Cafodd copiau ereill yn ffodus eu gwneud modd
bynag, o'r rhai yr argraffwyd argraffiad 1789,
gan Owen Jones a William Owen.

BRWYNLLYS, EDWARD, bardd, yr hwn
y dywedir iddo flodeuo rhwng 1550 a 1580.

BRWYNOG, LEWIS, bardd, a flodeuodd
rhwng 1550 a 1580.

BRWYNOG, SION, neu Sion ab Howel ab
Llywelyn ab Ithel; bardd enwog, a flodeuodd
tua'r flwyddyn 1550. Efe oedd perchenog lle
a elwir Brwynog, yn Mon, oddiwrth yr hwn y
cymerodd ei enw llenyddol. Y Cardiwr Du,
sydd enw arall a ddefnyddiai efe yn achlysur-
ol. Y mae llawer o'i ganiadau wedi eu dyo-
gelu mewn ysgrifen. Efe hefyd a ysgrifenodd
hanes tair tywysogaeth Cymru, yr hwn na
chyhoeddwyd erioed.

BRYAN, JOHN, a anwyd yn Llanfyllin,
sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1770. Aeth
yn ieuanc i wasanaeth masnachwyr yn Nghaer-
leon, o'r enw Williams, y rhai oeddynt aelod-
au cyfrifol o'r cyfundeb Wesleyaidd. Ymunodd
yntau â'r un cyfundeb; ac yr oedd wedi de.
chreu arfer ei ddawn i bregethu pan ddechreu-
wyd sefydlu cenadaeth Gymreig. Cymerwyd
ef i'r genadaeth hono yn 1801, a bu yn llafurio
yn Nghymru hyd y flwyddyn 1816, pan y sy-
mudwyd ef i Loegr, a bu yn gweinidogaethu
yn yr iaith Seisneg, hyd y flwyddyn 1824,
pan y peidiodd a bod yn weinidog. Wedi
hyny ymsefydlodd mewn masnach, ar y cyntaf
yn Lloegr, ac wedi hyny yn Nghaernarfon,
hyd ddiwedd ei oes. Heblaw ei ddawn pre-
gethu poblogaidd, yr oedd yn nodedig am
ystwythder ei ddawn cyfansoddi a chyfieithu,
yn enwedig cyfieithu ac efelychu barddoniaeth
Seisneg. Ei gyfieithiad ef yw agos yr holl
Hymnau Wesleyaidd. Y mae yr Eurgrawn
Wesleyaidd, ar hyd blynyddau ei oes faith,
wedi ei fritho â'i gyfansoddiadau yr un modd,
gyda phregeth neu ddwy. Cyfieithodd a ehy-
hoeddodd "Bywyd Mr. John Haime: Dol-
gellau, 1811." "Hanes Bywyd John Nelson,
1812." "Bywyd Iago Arminus."
" Wesley ar Iachawdwriaeth Gyffredinol, 1841." Bernir
fod ganddo rywbeth i'w wneud â chyfieithad
a chyhoeddiad y llyfrynau canlynol hefyd -
"Gwirionedd Iachawdwriaeth Gyffredinol, gan
esgob Beveridge:" Caerlleon, 1802. "Yr Ar-
faeth fawr dragywyddol ;" Amwythig, 1803.
"Etholedigaeth ddiamodol;" Caernarfon,
1803, &c. Fel masnachwr, yr oedd ei eglur-
der a'i onestrwydd yn ddiarebol; a'r ymddir-
ied ynddo yn ddiderfyn. Ni wenieithiai i
wreng na boneddig er mwyn eu ffafr. Bu
farw yn Nghaernarfon, Mai 28, 1856, yn 87
oed. (Eur. Wes. 1856, tudal. 288.

BRYCHAN, oedd fab Awlach Mac Gor-
muc, neu fel ei gelwir, Anllech Goronog,
mab Cormach Mac Carbery, un o freninoedd
yr Iwerddon. Symudodd ei rieni pan oedd efe yn
ieuanc iawn o'r Iwerddon, lle ei ganwyd
ef, i Gymru, a hwy a sefydlasant yn y Fenni,
neu y Gaer, ar lanau yr afon Isgaer, ger Aber-
honddu. Cymerwyd gofal mawr i ddysgu
Brychan pan yn blentyn yn holl fanylion y
gelfyddydoryfela. Nid yw hyn yn un rhyfeddod,
gan fod tueddiad cyffredinol yr oes at hyny yr
amser hwnw. Ond y mae yn rhyfeddod mawr
i Brychan ei hun, pan wedi derbyn y fath
addysg filwrol, ddwyn i fyny a rhoddi
addysgiaeth hollol wahanol i'w blant ei hun,
yn lle eu dysgu i ladd eu cydgreaduriaid, efo
a'u dysgodd hwynt i barchu yr efengyl ac i
ddwyn mawr sel drosti, fel y bu i amryw o
honynt roddi eu bywyd i lawr yn llawen drosti.
Tua'r flwyddyn 400 daeth Brychan i lawn
feddiant o etifeddiaeth Garthmadrin, trwy hawl
ei fam Marchell, merch Tudor; y lle hwn, yn
ol llaw a alwyd ar ei enw ef, Brycheiniog;
yr hwn enw y mae yn ddwyn yn barhaus yn
Gymraeg; ac nid yw Brecon a Brecknockshire
ond llygriad o Brychan a Brycheiniog. Bu
iddo ef gryn lawer o blant, ac efe a'u dygodd
hwynt i fyny yn grefyddol gyda mawr ofal,
a hwy a fuont ddefnyddiol iawn gyda chrefydd
yn eu dydd, a dyoddefasant lawer dros y
gwirionedd. Y mae llawer iawn o eglwysi yn
ein gwlad wedi eu cyfenwi oddiwrth blant
Brychan Brycheiniog; ac y mae y cyfryw yn
rhoddi claerwychedd beunyddiol i enw hen
wron Brycheiniog. Y mae Cynog a Thydfil,
Ceneu a Thingad, yn swnio bob dydd ar
glustiau miloedd yn y fath leoedd a Merthyr
Cynog, Merthyr Tydfil, Llangeneu, a Llan-
dingad. Cyfodwyd cofadeiladau enwog o
fynor a marmor i arwyr gorchestol. Ond y
mae amser ac elfenau anian wedi eu claddu
mewn anghof tragywyddol, tra y mae rhin-
weddau plant Brychan Brycheiniog wedi
plethu garlantau bytholwyrdd o amgylch coff-
adwriaeth eu tad. Bu i Brychan dair
wragedd. Ni ddywed hanesiaeth ddim am
nodwedd ei wragedd; ond ymddengys oddi-
wrth ymddygiad rhinweddol y plant fod
y mamau yn rhwym o fod yn llanw y cylch
teuluaidd gyda manylrwydd a chrefyddol-
der mawr. Yn ol Bonedd y Saint bu iddo
haner cant o blant, sef pedwar ar hugain o
feibion, a chwech ar hugain o ferched. Ond
ysgrifenwyr diweddarach a ddygant y nifer o
fewn cylchoedd llai, drwy ystyried amryw o'i
wyrion yn gynwysedig yn y rhes. Dywed
hen haneswyr i Brychan addysgu ei blant yn
y celfau a gwybodaeth yr efengyl, fel y byddai
iddynt allu cyhoeddi Crist Iesu yr Arglwydd
yn nhywyll leoedd Gwalia ag oedd yn ym-
ddifad o honi. O herwydd y rheswm hwn
cofnodir teulu Brychan, yn nghyd â'r eiddo
Bran a Chynedda, fel y tri "Gwelygordd
Santaidd," neu dri theulu santaidd Ynys
Prydain, (Myv. Arch. ii. 61). Yn amser
Brychan y daeth y Saeson gyntaf i'r ynys
hon; a chan eu bod hwy y pryd hwnw yn
baganiaid anwybodus, gosodasant amryw o
blant Brychan i farwolaeth greulon a didru-
garedd, a hyny yn unig o herwydd eu hym-
drechion o blaid ffydd yr efengyl. Lladdwyd
Tydfil, yn nghyd â'i thad, a'i brawd Rhun
Dremrydd, yn y lle a elwir oddiwrth ei henw
Merthyr Tydfil. Y mae ben ysgrif yn y
British Museum hyd heddyw-hen ysgrif
fynachaidd, yn cynwys llawer o hanesion
chwedleuaidd am Brychan a'i blant. Ond nis
gallwn ymddiried fawr i gywirdeb hanesion
mynachaidd, er yn ddiameu fod rhyw fesur o
Q