Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am gynllwyn a chyfrwysdra; ac yn gysson â hyn gellir nodi, fod "yr hen Wenhwyfar; yn enw o ddirmyg ar wraig hyd y pryd hwn mewn llawer parth o Gymru. Ond yn y Mabinogion Cymreig y mae Gwenhwyfar yn llawer syberwach dynes. Dywedir i esgyrn Gwenhwyfar gael eu darganfod gyda rhai Arthur gan y brenin Harri II., a bod gwallt y frenines wedi para hyd y pryd hwnw yn felyn ei liw, ac yn hardd yr olwg arno.

Nid fel rhyfelwr dewrwych yn unig y saif Arthur yn y Trioedd; ond cyfrifir ef yno hefyd yn mysg yr "oferfeirdd," sef beirdd nad oeddynt lenorion wrth eu galwad:

"Tri oferfeirdd Ynys Prydain:—Un, Arthur; ail, Cadwallawn ab Cadfad; trydydd, Rhyhawd ei: Morgant Morganwg." (Cyfres ii. 123). Ac y mae ar gadw dair llinell sydd yn cael eu tadogi arno, y rhai, meddir, a gânt ef i dri o'i gedyrn nerthol:

"Sef ynt fy nhri Cadfarchawg,—
Mael Hir, a Llyr Lluyddawg,
A cholofn Cymru, Caradawg."

Ond go afraid crybwyll, mai cyfansoddiad pur ddiweddar mewn cymhariaeth yw y llinellau hyn; a diau na chlywyd son am danynt hyd ym mhen rhai cannoedd o flynyddau ar ol marwolaeth Arthur.

Y pethau blaenorol yw y cyfan y gellir, gyda gradd o ddilysrwydd, ymddibynu arno megys gwir hanes Arthur. Nid oes un ysgrifenydd cyfoesol iddo yn crybwyll am dano; o leiaf nid oes dim o waith y cyfryw wedi disgyn hyd atom ni; oddieithri ni gyfrif gwaith Llywarch Hen yn awdurdod mewn perthynas iddo. Ond y mae yn amlwg i bawb diragfarn, cydnabyddus â'n hen ysgrifeniadau, nas geill y cyfansoddiadau sydd yn myned dan enw y bardd hybarch hwnw fod, yn eu diwyg presenol, yn perthyn i'r chweched ganrif, na thebyg y fath beth; ac nis gwyddys fod ar gael un ysgrif o honynt hynach na'r Llyfr Coch o Hergest, yr hwn a ysgrifenwyd yn y 14eg a'r 15fed ganrif. Nis gellir, o'r herwydd, gyfeirio at ganiadau Llywarch megys awdurdod hanesol gyda golwg ar ddygwyddiadau y chweched ganrif. Nennius gan hyny yw yr ysgrifenydd hanesol cyntaf sydd yn ei enwi; ac byd yn oed yn ei amser ef, ymddengys fod y gwirionedd yn ei gylch yn dechreu cael ei arliwio, megys, er enghraifft, pan ddywed yr hanesydd hwnw ddarfod i Arthur ladd a'i law ei hun gryn wyth gant a deugain o'r Seison yn ymladdfa Ynys Badon. Ceir enw Arthur yn fynych (er nad mor fynych ag y gallesid dysgwyl) yng ngwaith beirdd y canoloesoedd; ond gan nad oeddynt hwy gyfoedion iddo, nac yn byw yn agos i'w amser, ni byddai ond anfuddiol eu dyfynu.

Weithiau rhaid gadael ffaith, ac olrhain ychydig ar ffug mewn perthynas iddo; ac os prin yw defnyddiau ei wir hanes, y mae y ffughanesion am dano cyn lluosoced, fel y mae yn anhawdd iawn dethol y pethau nodedicaf o honynt.

Yn fuan wedi cwymp Arthur ar faes anffodus Canlan, ennillodd y Seison y llaw drechaf yn yr ynys hon; llethwyd ei rhyddid, cyfarsengwyd ei thrigolion, a dystawyd llais ei beirdd; ac y mae y wlad, mewn golygiad gwladwriaethol yn gystal a llenyddol, yn diflanu, bron, o'r golwg am rai canrifau. O'r chweched hyd y deuddegfed ganrif gorchuddiwyd Prydain gan fentyll dudew y nos; ac nid Prydain yn unig a aeth i gysgu yn ystod y tymmor hwn, ond canfyddwn y cyffelyb gysgadrwydd wedi ymdaenu dros holl gyfandir Ewrop. O ran dim gorchestion meddyliol, gellir dywedyd fod Ewrop oll yn huno mewn