ymrwymo anfon iddo ef deyrnged o'r Almaen, gan roddi gwystlon iddo am gyflawniad eu haddewid. Ond fel y gallesid dysgwyl, torodd yr anwariaid eu cyfammod ag Arthur, hwyliasant o amgylch yr ynys i Ddyfnaint, a thiriasant yn Totness. Prysurodd Arthur a'i luoedd yn eu herbyn hwynt yno; rhoddes gad ar faes iddynt ym Mynydd Badon, lle y gorchfygodd ef hwynt â lladdfa fawr; lladdodd ef 470 o'r gelyn â'i gleddyf Caledfwlch a'i waew Rhongymyniad. Yn nesaf, prysuro dd i Ogledd Prydain, i ryddhau Caer Alewyd, prif ddinas Prydeiniaid Gogledd yr ynys, yr hon yr oedd yr Ysgotiaid a'r Brithwyr yn gwarchae arni. Gwedi en gorchfygu, ymlidiodd hwynt hyd yn Llyn Llumonwy, lle y darparodd lynges, ac y parodd i'r gelyn ymostwng iddo. Gwedi hyny, trodd ei wyneb tua'r Dehau, a chadwodd wyl Nadolig yng Nhaer Efrog, lle y tynodd demlau Paganaidd Seisonig i lawr, ac yr adeiladodd Eglwysi Cristionogol yn eu lle. Yr haf canlynol, efe a orchfygodd Iwerddon; ac yna dychwelodd i Brydain, lle y treuliodd ddeuddeng mlynedd mewn heddwch a thangnef. Gwedi hyn cadgyrchodd yn erbyn Norwy a Gal, a ba naw mlynedd cyn iddo eu llwyr orchfygu. Yna efe a ddychwelodd adref, ac a gynnaliodd wledd fawr yng Nghaerlleon, lle yr amgylchynid ef gan luaws o freninoedd, y rhai oeddynt dan deyrnged iddo. Buan ar ol hyn, dechreuodd y Rhufeiniaid ofyn teyrnged ganddo; cynnullodd yntau lu dirfawr, a chroesodd i dir Gal, lle y gorchfygodd holl fyddinoedd ymherawdr Rhufain. Pan oedd yn parotoi i groesi Mynydd Mynnau; rhwng Gal a'r Ital, clywodd am y gwrthryfel oedd wedi tori allan ym Mhrydain dan arweinial ei nai Medrod, yr hwn oedd wedi ymuno â'r Seison, y Brithwyr, yr Ysgotiaid, a'r Gwyddelod, yn ei erbyn ef. Prysurodd i dir ei wlad ar unwaith, ac ennillodd ddwy fuddugoliaeth ar ei elynion, y naill ar oror Caint, a'r llall yn agos i Gaerwynt, pryd y gorfu ar Medrod a'i gymhlaid ffoi i Gernyw; ac yno, ar lan Camlan, yr ymladdwyd y frwydr ddiweddaf iddo.
Y cyfryw yw sylwedd y Brutiau Cymreig mewn perthynas i weithredoedd Arthur; ond y maent hwy yn adrodd yr amgylchiadau gyda llawer o fanylrwydd, fel y buasai pob sill o honynt yn ffeithiau diymwad. Adrodda y Mabinogion a'r Rhamantau luaws mawr o bethau na sonir am danynt yn y brutiau.
Megys nad yw bywyd Arthur megys bywyd marwolion ereill; felly hefyd nid yw ei farwolaeth fel y mae marwolaeth pob dyn, Rhaid cael rhamant yn ei farwolaeth yn gystal ag yn ei fywyd; ac am hyn gwir a ddywed yr hen weithyn a elwir Hanes Diwedd Arthur:—"Gnawd yw dywedyd llawer o bethau anfedrus am ddiwedd Arthur; ac yn enwedig chwedleuon Prydeiniaid, a amrysonant amdaw, ac a gadarnhânt ei fod yn fyw." Tystiolaeth y Rhamantan am ei ddiwedd sydd i'r perwyl hyn. Arthur, wedi deall ei fod wedi derbyn clwyf marwol gan Fedrod, a geisiodd gan Syr Bedwyr, un o'i farchogion urddol, gymeryd ei gleddyf Caledfwlch, a'i daflu i'r llyn a elwai efe iddo, Bedwyr, ar hyny, a gymerodd y cleddyf, ac a aeth tua'r llyn a grybwyllasid wrtho; ond wrth edrych ar y cleddyf gedidog hwnw, a chanfod ei wychder, a sylwi fod ei garn wedi ei harddu à meini gwerthfawr, bu anfoddlawn ganddo ei daflu i'r llyn, a chuddiodd ef dan bren, a dychwelodd, gan ddywedyd daflu o hono y cleddyf i'r llyn. Gofynodd y brenin iddo pa beth a welsai: ac atebodd yntau has gwelsai ef ddim ond y dwfr a'r tonau. Ar hyn dywedodd y brenin wrtho ei fod yn ei dwyllo; a gorchymynodd iddo fyned, yr ail waith, a