Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyflawni ei ddymuniad. Aeth Bedwyr; ond eto nis gallai glywed ar ei galon daflu y fath gleddyf gwerthfawr i'r llyn, a dychwelodd drachefn â'r un atebion i Arthur. Yna y cyhuddodd y brenin ef o frad a thwyll, ac o chwenychu y cleddyf oherwydd ei werthfawredd; a pharodd iddo fyned drachefn, a chyflawni ei orchymyn. Aeth Belwyr y tro hwn, safodd yn ymyl y llyn, ac a'i holl nerth taflodd y cleddyf iddo, cyn belled ag y gallai. Ac fel yr oedd Caledfwlch yn disgyn, wele law a braich yn dyfod allan o'r llyn, ac yn ymaflyd ynddo gerfydd ei garn, a chan ei ysgwyd dair gwaith mewn dull milwraidd, tynodd y llaw of dan y dwfr, ac ni welwyd mo hono mwyach. Pan ddychwelodd Bedwyr, a mynegu hyn i Arthur, ceisiodd Arthur ganddo ei ddwyn ef at y llyn. A phan ddaethant yno, gwelent wrth yr ymyl fâd bychan, ag amryw rianedd ynddo, oll mewn gwisgoedd duon; ac yn eu plith yr oedd brenines. Pan welsant hwy Arthur, yr wylasant oll, ac y llefasant â llef uchel. Yna, ar gais Arthur, gosododd Bedwyr ef yn y bâd; a thair brenines a'i derbyniasant ef, ac un o honynt a'i cyfarchodd ef, gan ei alw yn frawd. Hon oedd Maryam la Ffai, chwaer Arthur; a'r ail oedd frenines Gwynedd; a'r drydedd oedd frenines y Tiroedd Anial. Ac yr oedd yno hefyd Nimwe, prif arglwyddes y llyn, yr hon a briodasai un o farchogion Arthur. Ar ol myned Arthur i'r bâd, rhwyfodd y rhianedd ynaith oddiwrth y tir; a dywedodd Arthur wrth Bedwyr ei fod yn myned i Ddyffryn Afallon, i gael gwella ei glwyf. A Bedwyr, wedi colli golwg ar y bad, a aeth ymaith i'r goedwig.

Dywed Syr Thomas Maelor, o waith yr hwn y dyfynwyd y rhan fwyaf o'r pethau blaenorol, na fedrodd ef ddyfod o hyd i chwaneg na hyn yn nghlych diwedd Arthur. Ond yr oedd chwedl yn cerdded, fod meudwy yn byw yn y coed, ac yn dywedyd ddarfod y noswyl hono, yn nghanol y nos, i nifer mawr o rianedd ddyfod â chorff marw ato, gan geisio ganddo ei gladdu; a meddyliai mai corff Arthur oedd; ond, medd yr awdwr, rhai a ddywedant mewn amryw fanau o Brydain, nad yw y Brenin Arthur farw, ond y daw drachefn i gyflawnu gwroldeb A dywed amryw fod geiriau i'r perwyl hyn yn gerfiedig ar ei feddrod:——" Yma y gorwedd Arthur, Brenin gynt, a Brenin i ddyfod.' Ond y dyb gyffredin am dano ydoedd, ei fod yn byw yn ngwlad y Tylwyth Teg, gyda'i hen gyfeillion mewn mawr hyfrydwch, yn aros yr amser pryd y byddai iddo ddyfod drachefn i blith dynion; canys credid y deuai, ryw amser, i deyrnasu ar y Prydeiniaid, ac i'w harwain drachefn yn erbyn eu gormeswyr, gyda dirfawr rwysg a buddugoliaeth mawr. (Gweler Hanes Cymru, t.d. 265, 266.)

Hwyrach i'r grediniaeth nad oedd farw Arthur gael ei dechreuad ar faes Camlan, yng ngwaith y cadfridogion, fel y gallwn dybied (ac fel y gwnaed yn fynych wedi hyny), yn cadw clwyf angenol neu farwolaeth Arthur yn anhysbys i'r milwyr cyffredin, rhag eu digaloni ar faes y gad; ac oherwydd hyny, cadw ei feddrod yn ddirgel. Gwedi dechreu taenu y chwedl nad ydoedd ef wedi marw, ac yr ymddangosai drachefn, cadwyd y ffug i fyny gan benaethiaid y genedl, er attal y cyffredin bobl rhag ymostwng i lywodraeth y Seison. Y mae yn ymddangos gan hyny mai yn mhlith y Prydeiniaid yr ymgododd y grediniaeth yn anfarwoldeb Arthur, ac anhysbysrwydd ei feddrod, ac nid ym mhlith rhamantwyr y Cyfandir: ac yn unol â hyn yr ydym yn darllen yn yr hen gyfansoddiad a elwir "Englynion Beddau Milwyr Ynys Prydain," y mynegia canlynol mewn perthynas iddo:—