Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Bedd i March, bedd i Gwythur,
Bedd i Gwgan Gleddyfrudd;
Anoeth byd bedd i Arthur

Nid ymddengys i Arthur adael plant ar ei ol, o leiaf nid oes iddynt safle mewn hanesyddiaeth. Sonir yn Llyfr Teilo am rodd i Eglwys Llandaf, o diroedd yn Mhenfro, gan "Noe fab Arthur;" ond nis gwyddys chwaneg am dano, os nid efe a roddes ei enw i "Flaen Gwaith Noe ab Arthur," yn agos i Lanbedr Felffre, yn y swydd hono. Yr unig un arall o'i hiliogaeth y mae un crybwylliad am dano, yw "Llecheu, mab Taiiesin," yr hwn yn y Trioedd a elwir yn un o "Dri Deifnogion Ynys Prydain," y rhai oeddynt, Gwalchmai ab Gwyar; a Llecheu ab Arthur; a Rhiwallawn Wallt Benadlen." Sonir hefyd am dano yn Mabinogi "Breuddwyd Rhonabwy," ac yn "Ymddyddan Gwyn ab Nudd a Gwyddno Garanhir." Syrthiodd ym Mrwydr Llongborth, ac felly bu farw o flaen ei dad.

"Mi a wn lle y llas Llechau,
Mab Taliesin, uthr yng ngherddau;
Ban ryerynt brain ar grau.'

Cleddyf Arthur, fel y crybwyllwyd, a elwid Caledfulch; ei darian, Prydwen; ei waew (neu gadfwyell), Rhongymmynian neu Rhongymmyniad, neu Bongogoniant; ei ddager, Carnwenan; ei longau, Gwibliant, Caswenan, Gorwenan, Gwenan, Torogan, Gwionan a Hwylwenan; ac enw ei gaseg ydoedd Llamre.

Nid yw hyn oll ond crynodeb byr o hanes Arthur. Ysgrifenu ei hanes yn gyflawn a fyddai ysgrifenu hanes chwedl a rhamant o'u dechreuad hyd y pryd hwn; ac ysgrifenu hyny a fyddai ysgrifenu rhan fawr o hanes llenoriaeth Ewrop er dechreu y ddeuddegfed ganrif. Y neb a fync astudio y pwnc yn mhellach, ymgyghored, ym mhlith eraill, â'r gweithiau canlynol:—Y Mabinogion, gan yr Arglwyddes Guest; Y Greal (llawysgrifen yn llyfrgell Peniarth); Y Brutiau Cymreig yn y Myf. Arch. cyf. ii.); a Brut Lladin Gruffydd ab Arthur; Essay on Welsh Tradition, gan Schulz (cyfieithiad Seisonig Mrs. Berrington); Hanes Cymru, gan Carnhuanawc; Welsh Saints, gan y Proffesor Rees; Cambrian Plutarch, gan J. H. Parry; Cambrian Biography, gan y Dr. W. O. Pughe; Eminent Welshmen, gan y Parch. Robert Williams; Nernius, gan W. Gunn; Life of Arthur, gan Ritson; History of the Anglo—Saxons, gan Sharon Turner; History of English Poetry, gan Warton; Literary Remains y Parch. T. Price (Carnbuanawe); History of Fiction, gan Dunlop; ac eraill. Ac i amryw o'r awduron hyn yr ydys yn ddyledus am gryn gyfran o'r erthygl flaenorol.

ARTHWYS oedd fab i Ceneu ap Coel, penaeth o'r Brutaniaid Gogleddol. Yr oedd yn byw yn y bumed ganrif.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Huw Arwystli
ar Wicipedia

ARWYSTLI (HUGH) Bardd a flodeuodd rhwng 1510 a 1570. Bernir mai tua'r Abermaw y trigianai. Mae swrn o'i farddoniaeth yn nghadw mewn llawysgrifau. Dywed Hen Ysgrif yn y Brython mai yn Llanelwy y mae ei fedd.


ARWYSTLI GLOFF. Mab ydoedd i Seithenyn, yr hwn a gyfenwir Seithenyn Feddw, a brodyr iddo ydoedd Gwynodl, Merin neu Merini, Senefyr, Gwyndeg, Llibio, Tudur, Ynyr, Tudglwyd, Tudno, a Tyneio. Yr oedd ei frodyr oll yn perthyn i Fangor Iscoed, yr hon oedd hynod o enwog o dan arolygiad Dunawd tua'r pryd hwnw. Ond aelod oedd Arwystli o Fangor Enlli. Dywedir iddo sefydlu Eglwys, ond ni sonir