Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tybir mai yn Llanarmon yn Ial, sir Ddinbych, y mae y Maes Mawr.

BELI, mab hynaf y deddfroddwr enwog Dyfnwal Moelmud, ar farwolaeth yr hwn y cododd ymryson enbydus rhwng Beli a'i frawd Bran o barth y frenhiniaeth; eithr o'r diwedd heddychwyd y brodyr trwy gynghorion prydlawn a doeth y pendefigion; a phenderfynwyd ar ranu y deyrnas rhwng y ddau—rhoddwyd yr Alban i Bran, a'r gweddill a berthynai i goron Beli. Ond Brân, yr hwn oedd wr ieuanc o dymher sarug ac uchelfrydedd diderfyn, yn nodedig am wroldeb nad allai unrhyw anhawsderau ei ddigaloni, ac am haelder tuag at ei gyfeillion nad oedd unrhyw drysorfeydd, gan nad pa mor dywysogaidd fyddent, a allent ei gyflenwi, a daflodd ei hun yn fuan i ddyryswch ac anghydfod rhyngddo ef a'i frenin a'i frawd. Yn cael ei gynhyrfu gan y cymhellion arferol y rhai y gŵyr llyswyr a chenadwyr breninol mor dda ра fodd i'w cymhwyso at fynwes breninoedd, dechreuodd ymbarotoi i ymladd am y goron benbaladr. Er mwyn cryfhau ei hun i'r anturiaeth annaturiol yma, efe a fordwyodd i Norway, lle yr enillodd serch ac y priododd Anaor, merch Elsing, brenin Llochlyn. Yr oedd Anaor wedi ei dyweddio yn flaenorol i Guthlac, brenin y Cersoniaid Cymreig, yr hwn, pan glywodd am yr anfri a daflwyd arno fel hyn, a ddarparodd lynges er dal Brân ar ei ddychweliad yn ol. Gan fod Beli wedi derbyn hysbysiad o'r fradwriaeth yn Mhrydain, efe a ymdeithiodd yn ddioed tua'r Gogledd, ac a gymerodd feddiant o'r holl ddinasoedd caerog ag oedd yn nhiriogaethau ei frawd. Pan gyd—gyfarfyddodd Guthlac a Brân gyda eu llyngesau, ataliwyd y frwydr gan dymhestl ffrochwyllt; ond dygwyddodd i'r llong yr oedd Anaor ynddi gael ei chymeryd yn y terfysg gan Guthlac. Parhaodd cynddaredd y dymhestl am bum' niwrnod, ar derfyniad yr hon yr aeth yn llong—ddrylliad ar Guthlac ac Anaor gyferbyn a Bamborough, lle yr oedd Beli wedi gwersyllu, yn barod i guro yn ol drais—ymgyrch ei frawd. Arweiniwyd hwy yn ddioed ato ef, a chawsant dderbyniad anrhydeddus. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hyny, gan ei fod wedi gallu dal yn ddiogel yn ngwyneb y dymhestl, daeth Brân gyda'r gweddill o'i lynges arfog i mewn i Albania. Cyrhaeddodd y newydd ato yn fuan ddarfod cymeryd ei wraig, yn gyntaf gan Guthlac, ac wedi hyny gan Beli. Wedi ei greuloni gan yr hysbysiad hwnw, gwthiodd yn mlaen tua Bamborough, gan gyhoeddi y byddai iddo ddistrywio yr holl Ynys â thân ac â'r cleddyf, oni adferid iddo ei wraig ieuanc a'i deyrnas. Gan i Beli lwyr omedd cydsynio â'r gofynion hyn, cymerodd brwydr le yn Calater. Gorchfygwyd y Norsemyn gyda cholled o bymtheg mil o laddedigion, a gorfu ar Brân ffoi i Gál er mwyn achub ei fywyd. Yna Guthlac, wedi llawnodi cytundeb drwy ba un y daeth y Gerson Gymroaidd (Dacia, a elwid wedi hyny Denmarc), yn rhan o'r Ymherodraeth Brydeinig, a ollyngwyd ymaith gydag Anaor i'w deyrnas ei hun. Treuliodd Beli Ꭹ saith mlynedd dilynol ar y gwaith o orphen y ffyrdd a ddechreuwyd gan ei dad. Gwnaed cyfraith i'w taflu yn agored i bawb, brodorion ac estroniaid, ac i'w gosod ar yr un sail o ddiogelwch cysegredig ag a berthynai i'r afonydd a'r cysegr.

"Tri chyffredinion cywlad a gorwlad:—prif afon; prif ffordd; a chyrch golychwyd ac yn nawdd Duw a'i dangnef y byddant y rhai hyny; cyd nas noether arf gan a'u cyrchont yn erbyn a gyfarfyddont: ac a wnelo hyny, ai brodor ai estron y bo, hawl galanas gan gwyn arno gan arglwydd y cyfoeth."

Yn y gyfraith hon y dechreuodd yr ymadrodd—"Prif-ffordd y