BEDO PHYLIP BACH. Bardd a flagurodd tua 1480. Mae coffa am naw o'i Gywyddau ar glawr y Greal. Un i ofyn Tarw Du, yn dechreu fel hyn:—
Teyrn gwyr Ystrad Tywi,"
Un arall i ddiolch am dano,"—
Gwyr y tir a'r geiriau teg."
Un arall i "erchi Pawyn," yr hyn, gyda'r cyfeiriad at Ystrad Tywi, sy'n awgrymu mai Deheufardd ydoedd, gan mai Pawyn yw y gair arferedig yno am y Paun.
BEDWAS. Mab oedd ef i Helyg ab Glanawg, ac er fod plwyf yn Mynwy a elwir ar ei enw, i Baroc Sant, er hyny, y cyflwynir y lle hwnw.
BEDWINI. Archesgob Gelliwig yn Nghernwy oedd efe. Dyma fel y coffheir hyn yn y Trioedd, "Tri Archescobawt Ynys Prydain: Cyntaf, Llan Daf, o ddawn Lleurwg ab Coel ab Cyllin, yr hwn a roddes diroedd a braint Gwlad gyntaf i'r rhai a gystlynasant gyntaf â'r ffydd yn Nghrist; Ail, Caer Efrawc, o ddawn Cystynin amherawdr; sef oedd efe y cyntaf o'r amherodron yn Rhufain a ymgystlwynwys a'r ffydd yn Nghrist; Trydydd, Llundain, o ddawn yr amherawdr Macsen Wledig; a gwedi hyny buant Gaerllion ar Wysg, a'r Gelliwig yn Nghernwy, a Chaer Rianedd yn y Gogledd; ac yn awr y mae Mynwy a Chaerefrawg a Chor Gaint." (Myf. Arch. ii. 68). Yn Englynion y Clywed y mae triban o'i eiddo yr hwn a red fel hyn:
"A glyweisti a gant Bedwini
Oedd esgob doniawg diffri?
Rhagreithia dy air cyn noi dodi."
BEDWYR ab Pedrawc, oedd un o gadfilwyr dewraf y brenin Arthur. Efe oedd y pentrulliad yn llys y teyrn hwnw, a dewiswyd ef gan Arthur yn un o ddau farchog i'w ddilyn ef i fynydd St. Mihangel yn Llydaw, er mwyn dial marwolaeth Helen, nith i Hywel ab Emyr Llydaw, yr hon a ladratawyd ac a lofruddiwyd gan rhyw gawr anghenfilaidd; ac yn ol y Brutiau Cymreig, pan orchfyges Arthur wlad Ffrainc, rhoddes iarllaeth Normandi i Bedwyr. Efe hefyd a lywyddai adran o fyddin Arthur yn yn y frwydr enwog hono yn nyffryn y Seine, rhyngddo a'r Rhufeiniaid, tan Lucius; ac yno y lladdwyd Bedwyr trwy ei drywanu â gwaewffon gan Bocchus, brenin Media, yr hwn a gymerwyd drachefn yn garcharor, ac a losgwyd ar gorph yr hwn a laddasai, Claddwyd ef yn Bayeux, tref a adeiladasai ef i fod yn brif ddinas Normandi. Y mae rhamantau eraill, pa fodd bynag, yn gwahaniaethu cryn lawer oddiwrth y Brutiau yn hyn o beth, ac yn dweyd mai efe a ddewisodd Arthur pan yn marw i daflu ei gleddyf i'r gleddyf i'r llyn. (Gwel Arthur yn y llyfr hwn t. d. 39). Y mae tystiolaeth Englynion y Beddau" hefyd am dano yn groes i'r Brutiau:
Bedd mab Osfran yn Nghamlan,
Gwedi llawer cyflafan;
Bedd Bedwyr yn allt Tryfan.
Sonir am dano yn Trioedd 69 gyda'r "Tri Thaleithiawg Cad," sef Trystan, Huail, a Cai, y rhai a wisgent dalaith o gylch eu harleisiau mewn brwydr, a Bedwyr yn ben arnynt eill tri.
BELI ab Benlli Gawr, rhyfelwr enwog yn Ngwynedd tua diwedd y pumed cant. Cyfeirir at ei fedd yn Englynion y Beddau:"
Pieu y bedd yn y Maes Mawr,
Balch ei law ar ei lafnawr,
Bedd Beli fab Benlli Gawr.