Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gaplan i'r tywysog Harri, a gweinidog eglwys St. Matthew, yn heol Friday, Llundain. Yn mhen dwy flynedd, derbyniodd ei radd mewn duwinyddiaeth. Yr oedd ei boblogrwydd fel pregethwr tua'r amser hwn mor fawr fel y gwnaed ef yn gaplan i Iago I., yr hwn a'i dyrchafodd yn Esgob Bangor, ac urddwyd ef i'r swydd yn Lambeth, Rhagfyr 8fed, 1616. Mehefin 15fed, 1621, traddodwyd ef i garchar Ffleet, am ba drosedd nis gwyddis, eithr tybir mai am rhyw syniadau o'i eiddo ar briodas y tywysog Harri gyda Infanta yr Ysbaen. Pa fodd bynag, ni bu ei garchariad ond byr. Efe oedd awdwr y traethawd rhagorol hwnw, "The Practice of Piety;" a'r fath oedd poblogrwydd y llyfr hwn fel erbyn y flwyddyn 1734, yr oedd wedi cyrhaedd y 59ain argraffiad. Ymddangosodd tri argraffiad o'r gwaith yn y Gymraeg; y cyntaf tan y teitl "Ymarfer o Dduwioldeb," argraffedig yn Llundain 1630. Cyfieithwyd ef hefyd i'r Ffrancaeg yn 1633; a'r fath oedd enwogrwydd y llyfr fel y cwynai John d'Espagne, awdwr Ffrengig, a phregethwr yn Somerset House, fod y rhan fwyaf o'r bobl gyffredin yn meddwl mor uchel o hono â'r Bibl ei hunan. Bu farw Dr. Bayly Hydref 23ain, 1631, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Bangor. Gadawodd o'i ol bedwar o feibion, yr ieuengaf o ba rai oedd:(erthygl nesaf)

BAYLY (THOMAS, D.D.) Addysgwyd ef yn Nghaergrawnt; ac wedi derbyn yno radd yn y Celfau, yn 1638 rhoddodd y brenin iddo is-ddeoniaeth Wells. Yn 1644, efe a enciliodd gydag offeiriad teyrngarol eraill i Rydychain; ac yn Awst y flwyddyn hono, graddiwyd ef yn A.C., a thrachefn yn fuan yn D.D. Yn 1646, cawn ef yn Nghastell Ragland, gyda'r Ardalydd Worcester, yr hwn a amddiffynai y castell tros y brenin yn erbyn y Gwerinwyr. Rhoddwyd y castell hwn i fynu yn Awst ar delerau tra manteisiol, y rhai yn benaf a luniesid gan Dr. Bayly. Oddiyno efe a deithiodd i Ffrainc a gwledydd eraill, gan ddychwelyd i Loegr y flwyddyn wedi marwolaeth y brenin Siarl I. Yna cyhoeddodd lyfr a alwai "Certamen Religosium; or, a Conference between King Charles and Henry, late marquis of Worcester, concerning religion in Ragland Castle, 1649." Condemniwyd yr awdwr yn uchel oherwydd y llyfr hwn am ei fod ynddo yn gogwyddo at Babyddiaeth. Tua'r un flwyddyn, ysgrifenodd Bayly hefyd y "Royal Charter granted unto Kings by God himself;" ac yn nglyn a hwn "A Treatise, wherein is proved that Episcopacy is Jure Divino." Yr oedd y gwaith hwn yn hollol anghydnaws ag elfenau y Werinlywodraeth, a'r awdwr o'r herwydd a draddodwyd i garchar Newgate. Tra yn ngharchar, efe a ysgrifenodd lyfr dan y teitl, "Herba Parietus; or the wall flower, as it grows out of the Stone chamber belonging to the Metropolitan Prison, which is partly true, partly romantic, morally divine, 1650." Gyda ei fod wedi cyhoeddi y llyfr hwn, llwyddodd i ddianc o'r carchar, a ffodd i Holland, lle y cyhoeddodd ei hunan yn Babydd, ac y daeth yn orselog o blaid y grefydd hono. Sefydlodd wedi hyn yn Douay, lle y cyhoeddodd "The end to Controversie between the Roman catholic and Protestant religions, 1654." O Douay efe a symudodd i Itali, lle bu farw mewn dirfawr angen tua'r flwyddyn 1659.—Wood's Ath. Oxon.


BEDO ab Hywel Bach. Bardd a flodeuai yn gynar yn yr ail ganrif ar bymtheg.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Bedo Hafesb
ar Wicipedia

BEDO HAFHESP. Bardd a flodeuai yn ol y Cambrian Biography, tua 1500; ond yn ol Jones yn ei Welsh Bards yn 1590 y blodeuai efe. Tybir mai brodor o sir Drefaldwyn ydoedd.