gwyneb fy holl drueni!'" Tra yn Nghaerodor, arosai yn nhŷ ei chwaer, yn Redcliffe St., wrth yr hon dywedai un diwrnod, "Yr wyf yn gweled yn awr, nas gallaf bregethu byth mwyach, ond os myn Duw Imi wellhau rhyw ychydig, byddaf yn foddlawn i gadw drws yn ei dŷ ef." O'r diwedd, daeth y "gonewest," "disgwyliodd wrth ei Dduw," a chafodd weled "tranc y pechod ag oedd bron a'i ladd." Bu farw yn Nghaerodor, Chwef. 8fed, 1784, yn 31 mlwydd oed, a dygwyd ei gorph tros y môr i'w gladdu yn meddrod y teulu yn mynwent St. Athan Traddododd y Parch D. Jones ei bregeth angladd y Sabbath canlynol oddiar eiriau a fynych adroddai y gwr ieuanc yn ei glefyd olaf, sef "Nid wyf yn dywedyd wrthyt, hyd seithwaith, eithr hyd ddeng waith a thriugain seithwaith." Felly y bu farw y boneddwr ieuanc ucheldras hwn, yn enwog iawn am ei dduwioldeb.
BAXTER (WILLIAM), yr ysgrifenydd galluog ar ieithyddiaeth, ydoedd nai ac etifedd i'r enwog dduwinydd ac anghydffurfiwr Richard Baxter. Ganwyd ef o rieni parchus ad tlodion yn Llanllugan, Maldwyn, yn y flwyddyn 1650. Ni chafodd ond y nesaf i ddim o addysg foreol; a phan yr aeth, yn ddeunaw oed, i Ysgol Harrow, ni fedrai air ar lyfr, ac ni ddeallai air o unrhyw iaith ond y Gymraeg. Eithr defnyddiodd ei amser rhagllaw mor ddygn a doeth, fel y daeth yn ŵr o wybodaeth helaeth annghyffredin. Prif bleser ei astudiaeth oedd hynafiaeth ac ieithyddiaeth, ac efe a ysgrifenodd amryw lyfrau ar y gwybodau hyn. Y cyntaf, a gyhoeddwyd yn 1679, ydoedd Ramadeg, tan y teitl, "De Analogia, sue Arte Latina Commentariolus," yr hwn a gynwysai lawer o syniadau hynod a gwreiddiol. Yn 1695 ymddangosodd argraffiad newydd o Anacreon, wedi ei ddiwygio a'i nodiadu ganddo ef; yr hwn a ail argraffwyd yn 1710 wedi ei ddiwygio, ac ychwanegiadau ynddo. Yn 1701, cyhoeddodd argraffiad o Horace; yr hwn a ail argraffwyd yn 1725. Yn 1719, ymddangosodd ei Eiriadur cywrain a dysgedig o Hynafiaethau Prydeinig, tan y teitl, "Glossiarum Antiquitatum, sive syllabus Etymologicus Antiquitatum veteris Britanniæ atque Hiberniæ, temporibus Romanorum. Ei waith nesaf oedd, "Glossary of Roman Antiquities," eithr ni chyhoeddwyd hwn hyd ar ol ei farwolaeth yn 1726; golygwyd ef gan y Parch. Moses Williams, a'i deitl ydoedd "Reliquiae Baxterianæ, sive Willielmi Baxteri opera postuma. Ail argraffwyd hwn yn 1731, tan y teit newydd o "Glossiarum Antiquitatum Romanorum." Eithr nid aeth yn mhellach gyda'r gwaith hwn na'r llythyren A.; y mae llawer o'r articlau yn faith a dysgedig. Cynygiodd Mr. Williams yn 1732 argraffu nodiadau Baxter ar Juvenal. Yr oedd hefyd wedi nodiadu Persius. Yr oedd efe yn feistr hollol ar y Gymraeg a'r Wyddelaeg, ac yn hyddysg yn yr ieithoedd Gogleddol a Dwyreiniol, yn nghyda'r Groeg a'r Lladin. Gohebai gyda gwyr dysgedicaf ei oes, yn enwedig gyda'i gydwladwr Edward Llwyd; rhai o lythyrau yr hwn a welir ar ddiwedd y gwaith olaf a enwasom. Dysgu ieuenctyd oedd ei waith y rhan fwyaf o'i oes. Bu yn cadw ysgol fwrddiol am flynyddau yn Tottenham, Middlesex, o ba le y dewiswyd ef yn athraw ar y Mercers' School, Llundain. Bu yma am ugain mlynedd, a rhoddodd y swydd i fynu ychydig cyn ei farwolaeth, yr hyn a gymerth le yn Mai, 1723, pan oedd efe yn yr 73ain oed.
BAYLY (LEWIS, D.D.). Ganwyd ef yn nhref Caerfyrddin, a derbyniodd ei addysg athrofaol yn ngholeg Exeter, Rhydychain. Yn 1611, yr oedd efe yn weinidog Evesham, yn swydd Worcester, yn