oedd Methodistiaeth Galfinaidd y pryd hwn yn ei mabandod, ond oherwydd cydnawsedd ddifrifol tymher ei gweinidogion a thymher y curad ieuanc, enynwyd serch cydrhyngddynt, ac ni bu cywilydd ganddo o hyny allan gael yr enw dirmygus o "Fethodus os gallai trwy hyny hefyd lesau eneidiau dynion. Pan ddaeth i guradiaeth St. Ffagan cymerodd dŷ dan ardreth—tŷ yr arferai ieuenctyd y pentref gyfarfod ynddo i ddawnsio, a defnyddiwyd y tŷ i ddybenion cwbl wahanol; cynelid ynddo bob moddion o ras, a pharhaodd y Methodistiaid i ymgynull yn y tŷ hwn hyd 1837, pan yr adeiladasant gapel iddynt eu hunain. Gofalai Mr. Bassett gymaint am achos Duw yn yr ystafell hono ag am ei guradiaeth—un achos yr ystyrid hwy ganddo, sef achos y Cyfryngwr, ac achos eneidiau dynion, achos y teimlai efe rwymau i wneud ei oreu erddo yn mhob gwedd a fyddai arno. Ar ei gais ef, deuai rhai o'r gwyr mwyaf cyhoeddus perthynol i'r enwad Methodistaidd yn eu tro i bregethu yn yr ystafell grybwylledig; ac ystyrid Mr. Bassett tua'r adeg hon lawn cymaint o Fethodus ag o Eglwyswr. Byddai yn pregethu yn fynych yn nghapelau yr enwad ymneillduol hwn mewn gwahanol barthau o'r wlad; ac y mae son ddarfod iddo unwaith beth bynag gymeryd taith trwy'r Gogledd yn nghwmni un o'i gweinidogion mwyaf cyhoeddus. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, pan yn son am orfoledd a dorodd allan yn Llandyrnog, Dyffryn Clwyd, tan weinidogaeth naill a'i Rowlands, neu Jones Llangan, fod y Parch. Christopher Bassett, A. C., o sir Forganwg, yn mysg eraill, "yn neidio ac yn moli Duw;" ac adroddai yr offeiriad ieuanc y penill canlynol:
Yn y rhyfel mi arosaf,
Yn y rhyfel mae fy lle;
Boed fy ngenau wrth y nefoedd,
Boed fy llygaid tua'r ne':
Doed y gonewest pryd y delo,
Disgwyl wrth fy Nuw a wnaf;
Nes o'r diwedd wel'd yn trengu'r
Pechod ydoedd bron a'm lladd.
Pa fodd bynag, ni bu ei arosiad yn St. Ffagan ond byr, ond nis gwyddis pa ysprydoedd oedd ar waith yn ei symud oddiyno. Yn mhen y flwyddyn, sef yn 1779, ymadawodd, a bu am yspaid wedi hyn yn gurad eglwys Porthcerri, gerllaw tŷ ei dad. Yn fuan wedi myned yno, ymddangosodd arwyddion amlwg o'r darfodedigaeth arno—yr oedd ei sel danbaid a'i weithgarwch di-ildio tros ac yn ngwaith ei Arglwydd yn dechreu gadael eu hol ar ei gyfansoddiad gwanaidd ar y goreu; ac i brysuro'r diwedd, torodd wythien o'i fewn, a chollodd lawer o waed. Cynghorai y meddyg ar iddo gael ei gymeryd i Gaerodor, er mwyn iddo gael rhoddi prawf ar ddwfr brwd ffynonau yr ardal hono; a theimlai y claf ei natur yn adfywio cymaint tan eu heffeithiau nes y tybiai fod rhagor o fywyd ar ei gyfer. Ond nid oedd yr adferiad byr hwn ond fflachiad mellten ar gyfnos—un o'r tybiau lledrithiog hyny yn mha rai y mae'r darfodedigaeth yn dystaw a sicr feddianu ei ysglyfaeth. Gwelai y craffus fod ei nerth yn darfod, a'i gam yn myn'd yn fyrach bob dydd. Yr oedd ei enaid yn y cyfamser yn derbyn yn helaeth o ddyddanwch yr iachawdwriaeth. Ymwelodd y Parch. D. Jones, o Langan, ag ef yn gystudd, ac adrodda a ganlyn am dano:— "Trodd ein hymddiddan un tro ar bethau y wlad uwchlaw haul, a chefais le i farnu nad gwr dyeithr oedd efe yn y wlad hono, ond ei fod yn dra chynefin mewn llawer rhan honi, a'i fod yn cael hyfrydwch mawr wrth dderbyn newyddion rhagorol oddiyno yn fynych. Dywedai lawer am iaith y wlad, a gwelais yn eglur fod ganddo sicrach gafael ar Arglwydd y wlad hono nag oedd gan yr hen gonsumsion arno ef. Gyda gwyneb siriol, dywedai wrthyf fel y canlyn, Gwn ar brydiau beth yw mwynhau tawelwch sylweddol yn