yn ei flodau tua chanol y ganrif ddiweddaf. Ceir ychydig o'i waith mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1465[1] tan y teitl "Cyfaill i'r Cymro," wedi ei gasglu gan Wm. Hope, o Fostyn. Ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ymroddodd â'i holl egni i fod o wasanaeth i'w wlad a'i genedlaeth, trwy gyfieithu:—1. "Llythyr o Gynghor Difrifol oddiwrth Weinidog Efengyl at ŵr mewn cyflwr o fethiant ac afiechyd. Gan y Parch. Mr. De Covey, 1784." 2. "Myfyrdodau Hervey, y rhan gyntaf, o gyfieithiad Iorwerth Barnes, 1785." 3. "Coron gogoniant tragwyddol." 4. "Pregeth y Parch. T. Priestley, ar farwolaeth arglwyddes Selina, iarlles Huntingdon; a gyfieithwyd gan Iorwerth Barnes." Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn sir Drefaldwyn. BAROC. Er nad oes dim gair o son am y sant hwn yn Achau'r Saint, nac yn un ysgrif Gymraeg arall ar a welais, eto, y mae'r hanesydd Cressy yn gwneud y crybwylliad canlynol am dano. "Meudwy ydoedd, a gwneir coffeion am dano yn Nhalaeth yr Essyllwyr yn Ngwlad Forgan." Claddwyd ef, ebe'r un awdwr, yn Ynys Barry ar gyffiniau y wlad a enwyd, ac ebai drachefn, " Yn ein Merthyrdraith dywedir fod y Meudwy sanctaidd hwn yn deilliaw o uchel—waed Brutanaidd, ac iddo ymgymeryd â'r dull unigol hwn o fyw er mwyn cyrhaedd bywyd anfarwol, yr hyn a wnaeth ar y 29 o Dachwedd, O. C. 700, a chedwir ei wylmabsant ar y dydd hwnw." Y mae Giraldus Cambrensis yn "Muchedd Dewi Sant," yn adrodd chwedlig dra difyr am dano. Dywed fod Baroc yn Abad Cork yn yr Iwerddon, ac iddo ddod i dalu ymweliad a Dewi. Pan yn Menyw cododd gwynt croes arswydus a methai yn lân loyw a chroesi yn ol. Fodd bynag, benthycodd ryw ddiwrnod, geffyl ei gyfaill, a marchogodd ar draws y môr yn ddidramgwydd. Dysgybl oedd i Gwalchmai, yr hwn a gladdwyd mewn ynys yn ngenau yr afon Hafren. Dywedir fod eglwys Bedwas yn sir Fynwy wedi ei chyflwyno i'w nawdd ef. BASSETT (CHRISTOPHER). Ganwyd y boneddwr ieuanc duwiol hwn yn Aberddawen, plwyf Penparc, Morganwg, tua'r flwyddyn 1753. Ei rieni oeddynt Christopher Bassett, Ysw., ac Alice ei wraig. Derbyniodd ei addysg foreuol yn y Bontfaen, pryd y ddadblygodd dymher addfwyn a charuaidd, a deall cryf a bywiog. Pan y daeth ei amser i fynu yn yr ysgol hon, ei dad er mwyn ei brofi a roddes ddewis iddo a'i myned i Rydychain ynte aros gartref ar ei dir ei hun. Dengys ei atebiad fod crefydd wedi cael argraff yn fore ar ei feddwl, "Yr wyf yn hyderu," meddai, "y caf y fraint o ddweyd y gwir tros Dduw wrth fy nghydgreaduriaid.” O ganlyniad, danfonwyd ef i Goleg yr Iesu, Rhydychain, a graddiwyd ef yno cyn ymadael yn A.C. Yn fuan, derbyniodd alwad i fod yn gurad i'r enwog Wm. Roumaine, yn St. Anne's, Blackfriars, Llundain; ac urddwyd ef gan Esgob Llundain. Yr oedd efe hefyd yn y cyfamser yn llanw y swydd o ddarlithydd i Eglwys St. Ethelberg. Ymledai ei boblogrwyddd yn gyflym, a meddylid yn uchel am dano fel gwr ieuanc duwiol a thalentog; ond pan yn anterth ei lwyddiant, cafodd dwymyn drom yr hon a adawodd ei heffeithiau arno y gweddill o'i oes. Tybiai ei rieni nad oedd awyr y Brifddinas yn dygymod âg ef, ac ar eu cais taer hwy dychwelodd i'w wlad ei hun. Yn fuan wedi ei ddychweliad, agorwyd drws defnyddioldeb iddo i fod yn gurad Eglwys St. Ffagan, gerllaw Caerdydd. Yma, daw llinell euraidd arall yn nghymeriad Bassett i'r golwg; yr oedd ei enaid yn rhy fawr i gael ei gyfyngu rhwng erchwynion plaid, ac yn rhy dduwiolfrydig i ddiogi lle. bynag y cai gyfleusdra i wneud daioni. Yr
- ↑ Diawl y wasg. 1765, sy'n gywir. Gw Edward Barnes yn y Bywgraffiadur