Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofleidiodd y grefydd hono, ac wedi cydgyfarfod â rhai mynachod Benedictaidd yn Llundain, perswadiwyd ef i fyned gydag un ohonynt i'r Eidal, ac yn Padua, efe a dderbyniwyd i Eglwys Rhufain, gan Abad St. Justinia, yn y flwyddyn 1605, pan y newidiodd ei enw, yn lle David yn Augustine Baker. Yn fuan dychwelodd adref, pan y cafodd ei dad yn gorwedd ar ei wely angau, a llwyddodd i'w berswadio, cyn ei farw, i ymuno â Phabyddiaeth. O hyny allan, ymroddodd yn aelod llafurus o'i urdd, a gwnaed ef yn fath o benaeth ar fynachlor yr urdd yn Dieulward, yn Loraine. Bu flynyddan lawer ar waith yn olrhain cofnodion yr urdd Benedictaidd; ac yn 1624, aeth i Douay, a gwnaed ef yn gyfarwyddwr ysprydol, a chyffeswr yr hen Famau Benedictaidd Saesonig yn Cambray, lle y bu naw mlynedd. Yr oedd yn awdwr llawer o weithiau ar dduwinyddiaeth ymarferol, ond ymddengys mai mewn ysgrifau y gadawyd hwynt, mewn naw cyfrol unplyg mawrion, yn Lleiandy Cambray. Yr oedd hefyd yn gyfreithiwr rhagorol yn y gyfraith gyffredin, ac yn hynafiaethydd dysgedig. Gadawodd hefyd chwe' chyfrol o ysgrifau ar hanesiaeth Eglwysig, defnyddiau pa rai a gasglodd o'r llyfrfaoedd a'r cofnodau goreu, yn yr hyn y cynorthwywyd ef gan Camden, Cotton, Spelman, Selden, ac Esgob Goodwin, gyda'r rhai oll oedd yn eithaf adnabyddus. O'r casgliadau hyn y cymerwyd defnyddiau yr "Apostolatus Benedictcnorum in Anglia," a gyhoeddwyd gan Reynar, ac hefyd ei ddefnyddiau i Hanes Eglwysig Llydaw, a gyhoeddwyd gan Cressy; yr hwn a gyhoeddasai o'r blaen y "Sancta Sophia; or Directions for the Prayer of Contemplation," ac wedi ei dynu allan o fwy na deugain o draethodau a ysgrifenwyd gan Baker. Cyfieithodd weithoedd llawer o awdwyr crefyddol o'r Lladin, y rhai oeddynt yn nghadw mewn tair cyfrol unplyg mawr, ond a ddinystriwyd yn aarheithiad Capel Pabyddol St. Ioan, yn Clerkenwell, yn y flwyddyn 1688. Bu Baker farw yn Holborn, yn Awst y flwyddyn 1641, yn 66ain oed, a chladdwyd ef yn Eglwys St. Andrew,

BANGOR, (HUGH), bardd a flodeuai yn ol y "Cambrian Biography" rhwng 1500 a 1600.

BARLOWE (WILLIAM), mab ydoedd i'r Dr. William Barlowe, esgob Tŷ Ddewi. Ganwyd ef yn sir Benfro; addysgwyd ef yn Balliol College, Rhydychain; ac yn 1564 enillodd radd yno mewn celfyddyd. Wedi gadael y coleg, teithiodd lawer ar y byd, a daeth yn fedrus yn y gelf o Forwriaeth. Tua'r flwyddyn 1573, ymgymerodd ag urddau eglwysig; a chodwyd ef yn gyflym yn yr eglwys. Gwnaed ef yn gaplan i'r tywysog Harri, ac yn 1614 dyrchafwyd ef yn archddeon Salisbury. Efe oedd y cyntaf a ganfu y gwahaniaeth rhwng haiarn a dur, a'u gwahanol dymherau at ddybenion tynfaol; a'r cyntaf a ysgrifenodd ar natur a chyneddfau y tynfaen (loadstone); a bu hefyd yn dra llwyddfanus i ddarganfod llawer o ddirgelion eraill mewn maen-dyniad. Ei lyfr cyntaf oedd, "The Navigator's Supply; containing many things of principal importance to navigation, with divers instruments framed chiefly for that purpose: London, 1597." Ei ail lyfr ydoedd, "Magnetical Advertisement; or divers pertinent observations, and approved experiments concerning the nature and properties of the Loadstone: London, 1610." Gwnaed rhai sylwadau diraddiol ar y llyfr hwn gan Dr. Ridley o Gaergrawnt; ac atebodd Barlowe y Dr. mewn iaith, a barnu oddiwrth y wyneb-ddalen, lawn mor chwerw ag yntau. Bu farw Mai 25ain, 1625, a chladdwyd ef yn eglwys Easton.

'BARNES, (EDWARD), llenor Cymreig, oedd enedigol o Lanelwy, ac