Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y TRAETHODYDD

CYF. LXXVIII. RHIF 346. IONAWR, 1923.



GORONWY OWEN A'R MORRISIAID

YN gyntaf i gyd, dymunaf ddiolch i'r Prifathro J. H. Davies, M.A., am gyhoeddi "Llythyrau'r Morrisiaid," heb ofni'r gost, nac arbed trafferth. Gwn fod y diolch yn hen, ond ceidw dymuniadau da yn burion hyd a fynner. Gwasanaeth da oedd i lên Cymru, ac yn arbennig i hanes moesol Mon yn y 18fed ganrif. Yn ymarferol, y mae yn y Llythyrau ddalen newydd o hanes Goronwy Owen, a moddion i derfynu hen ddadleuon. Daw ynddynt rhyw weddill o ffeithiau i'r golwg, ac wrth eu gosod ynghyd, ymddangosant yn ddolennau rhyddion a digadwyn, yn llysoedd brawd cymeriad y Bardd. Honnwyd yno lawer tro, mai esboniad y barnwr ar eu tystiolaeth oedd eu tystiol aeth hwy eu hunain. Ni chwynasant rhag neb, ni chollasant eu hamynedd; ond cadwasant eu cofion yn bur, ac yn rhodd ddiddorol i bob oes a estynno ei dwylo ati.

Dylem bellach, yng nghymdogaeth deucanmlwydd geni Goronwy roddi rhyddid teg i bob ffaith i lefaru drosti ei hun, ac i argyhoeddi'n ddiragfarn. Buont yng ngharchar yn rhy hir, yn gaethion a ddefnyddiwyd droeon i wasanaethu opiniynau.

Nifer y Llythyrau yn y ddwy gyfrol yw 605. Llythyrau teulu ydynt i gyd oddigerth un neu ddau, a salmau galar y teulu yw cynnwys y rhai a ysgrifennwyd gan law estron. Er fod y rhif yn fawr, nid yw ond cyfran.

Y mae eto nifer dda o lythyrau i gyfeillion heb eu cyhoeddi. Beth am y pentwr na welodd neb hwynt? A ddiangasant hwy rhag tân? Mae llythyrau William ar gregyn a ffosilod i Bennant yr hanesydd? O'r nifer uchod, ysgrifennodd William 420, sef 315 i Rhisiart, 97 i Lewis, ac 8 i John Owen ei nai, mab mwyn ei chwaer Elin.