Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William, hyd y mae'r llythyrau yn profi, oedd y gyrrwr llythyrau amlaf, a Rhisiart y derbyniwr amlaf. Beth bynnag, rhagorodd arnynt i gyd am gadw'r epistolau a anfonid iddo. Ceidwad y Dollfa yng Nghaergybi oedd William, hon oedd ei swydd gyflog. Yr oedd ganddo swyddi trafferthus eraill, swyddi amser segur. Yr oedd y garddwr goreu yng Ngwynedd, yn ail i Bennant am hel cregyn, ac yn gan gwell na haid o Wyddelod am adnabod llysiau eu gwlad eu hunain, er eu bod yn athrawon llysiau yng ngolegau "Dulun." Rhwymodd glwyfau bobl Caergybi am chwarter canrif, a hyd y gwelaf ef oedd unig feddyg y dref dô gwellt 'radeg honno. Ysgrifennodd gyfrolau o farddoniaeth hen feirdd Cymru, a chafodd hamdden mewn rhyw gysylltau i ysgrifennu cannoedd o lythyrau byw a diddorol. Aeth Rhisiart i Lundain yn 1742, yn fachgen 19eg oed. Ni welodd Ynys Fon hyd ei fedd, ac ni chroesodd Gerrig y Borth yn ei ol gymaint ag unwaith. Collodd anian ei hen gynefin, gwreiddiodd ym mywyd Llundain; ond ni chollodd ei gariad at ei bobl, nac at lên ei genedl chwaith. Gwr distaw ydoedd, a chwrtais, yn cadw ei hanes iddo ei hun. Priododd yn 1729, yn fuan ar ol Lewis; ond ni chlywodd John ei frawd mo'r stori hyd yn gynnar yn 1740. Os drwg gyda John, 'roedd yn waeth gyda William, ni chlywodd ef hi hyd 1742, er ei fod yn ameu. Pan briododd y drydedd wraig, ni fynegodd hynny i William hyd amser geni'r trydydd plentyn, yr hwn a synnodd, am na wyddai fod y fath bobl yn y byd. Er cadw dirgelion teulu rhag ei gilydd, ysgrifennent yn aml y naill at y llall, a chwedleuent ddigon am deuluoedd eraill. Fel rheol, gwŷr diwyd yw gwŷr distaw, a gwŷr caredig yw gwŷr cwrtais. Felly Rhisiart. Ni fagodd Mon garedicach mab na Rhisiart Morris. Gweithiodd ddydd a nos i ennill arian, a rhannodd hwy i Gymry a ddelai i Lundain i chwilio am waith, yn y Nafi gan amlaf, hyd at dlodi ei deulu ei hun. Chwiliodd am swydd i lawer llanc o Gymro, a chadwodd hwy hyd oni chaffent gyflog eu gwaith i gadw eu hunain. Dwrdiodd Lewis ef yn chwerw, a chyhuddodd ef o roddi arian ei blant i ddynion segur a meddw. Bu am flwyddyn yng ngharchar Fleet Street am ddyled gwr a'i twyllodd. Yn ei olwg ef, nid priodol oedd hel arian a'u gadael ar ei ol