Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn bentwr i'r plant. Ei wasanaeth ef i Dduw oedd ei gymwynasau i ddynion. Twyllwyd ef gan wreng a bonheddig, ond ni chollodd ei ffydd yn nynion, ac nid oerodd ei gariad at ei genedl dlawd, er iddo ei chael hithau'n ddigon gwamal. Croniclodd William iddo'n ffyddlon am flynyddoedd hanes ei hen gymdogaeth, a champau ei hen gymdogion. Anfonodd iddo hanes y teulu, eu llwydd a'u haflwydd, ym Mhentre Rianell, ac ymhob man yn y wlad i gyd. Ni ddigwyddodd hap nac anhap i'r un o'r hil, nad esboniodd William ef i'w frawd yn ei dull ei hun, ac yn iaith lafar Ynys Fon.

Ysgrifennodd Lewis Morris 214 o'r Llythyrau, a 134 o'r rheiny i William i Gaergybi. Ofnaf fod swrn dda o epistolau teulu Lewis ar goll, er nad oedd angen iddo ef ysgrifennu cyn amled, am ei fod ol a blaen rhwng y De a Llundain, a rhoddai ambell dro i'r Gogledd. Pynciau mawr Lewis yn aml yn ei lythyrau maith, fel rheol, fyddai, pa fodd i wella'r fygfa a'r peswch, a pha fodd i ennill ei gyfreithiau anniben. Ni choncrodd y peswch, ac ni choncrodd ei elynion cyfraith chwaith yn llwyr. Yr oedd yn llenor da, cystal, a gwell na neb yn ei amser. Dangosodd fedr fawr i feirniadu, a chraffter i esbonio geiriau yn ei amser ef, er fod y cwbl erbyn hyn yn ddigon hen ffasiwn. Gwr dawnus yn ei lythyrau oedd John, y mwyaf naturiol o'r pedwar, a bardd digon cymwys. Torrodd angau ef i lawr cyn iddo gyrraedd tir sobrwydd, y cyfnod hwnnw ar fywyd a wnaeth ddynion o'r tri brawd arall.

Ysgubor yw y Llythyrau, a agorwyd fel o newydd, yn cynnwys crewyn da o yd cymysg, heb ei nithio, ond yn llawn o rawn er hynny. Yn ymarferol, cynhwysant hanes o chwarter canrif, rhwng 1740 hyd, dyweder, 1765. Hanes traddodiadau yw yn colli'r dydd, a phywerau newydd yn dechreu ennill goruchafiaeth, awr dywyll hen fywyd y wlad, ac awr bore ei bywyd newydd. Nid ysgrifennodd neb eto chwedl bywyd aflwyddiannus y tri brawd, oherwydd yn yr epistolau hyn y mae hi'n ymguddio. Dyma encilion eu hymdrechion diflin. Gwerinwyr oeddynt, nid o anian ond o radd, a hanes ymdrech gwerinwyr digefn ym myd swyddogaeth wleidyddol Prydain yw eu chwedl. Onid ymwerthodd y wlad i hwliganiaeth, meddwdod a breibiau yn amser William Pitt? Wrth freibio yr oedd