Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y wladwriaeth yn byw. Er craffed oedd eu meddyliau, er cwrteisio'n fonheddig, er llawer dyfais dda, er ymrwbio mewn swyddwyr uchel ac arglwyddi teg, ni chawsant risyn o dan eu traed i esgyn i fyny. Gwelsant lawer gweledigaeth deg draw ymhell tu hwnt i'r cymylau. Ond delai rhyw wynt anweledig, a gyrrai'r cymylau at ei gilydd i guddio'r loeren wen, a lladd eu gobaith o flaen eu llygaid. Rhan a mwyniant cyfoethogion oedd braster y wlad yr adeg honno, a'u hil hwy oedd yn yr olyniaeth i bob bendith wladol. Nid oedd gwir deilyngdod yn cyfrif dim, nawdd y cefnog a gwobr yr ariangar oedd popeth. Gwyddent hwy'r drefn, ond methasant ei harfer o ddiffyg digon o ddwfr ar yr olwyn, ac oherwydd lliw'r gwaed.

Gwerinwr oedd Goronwy, heb liw ar waed ei wythiennau, nac arogl âch uchel arno ef, nac ar ei dadau. Na chamfarned neb Oronwy. Nid ei fuchedd oedd anhap ei fywyd, ond camwedd ei oes. Yr oedd ei fuchedd anffodus yn gynnyrch teg ei oes ymhob peth; ond buchedd yr oes yn y pot pridd ydoedd, nid yn y pot pres. Onid ydym ninnau heddyw'n codi i swyddau, ac yn maddeu pechodau, ar bwys y pot pres? Gwaed uchelwyr oedd yn offeiriaid yr Eglwys. Cododd ym Mon fwy o offeiriaid nag odid un sir yng Nghymru o Gromwel hyd ganol y 18fed ganrif, ond meibion ei thirfeddianwyr oeddynt bod ag un. Hyd y gwn, ni chododd neb tlawd i'r offeiriadaeth ond Goronwy. Yn yr oes honno, ni fedrai tirfeddiannwr clyd arno feddwl gwrando'r Efengyl o enau mab ei denant, neu fab gwas ei denant.

Ni ysgrifennwyd hanes bore Ymneilltuaeth Mon; yn y Llythyrau hyn y mae'r ddalen gyntaf. Eglwyswr selog oedd William Morris, cyfaill calon i'r Parch. Thoma's Ellis, B.D., ficar Caergybi, a gwr crefyddol yn ei oes. Dylem bellach ystyried tystiolaeth pobl am eu henwad eu hunain. Ni ddywed neb y caswir am ei bobl, ond ar ei waethaf. Ymdrechodd yr Eglwys yn deg i roddi Beiblau i'r bobl, ac ymdrechodd y Parch. Griffith Jones â'i ysgolion i ddysgu'r bobl eu darllen. Ond yr oedd grym moesol gweinidogaeh yr Eglwys ym Mon yn eiddilach nag yr ysgrifennodd neb am dani. Yr oedd y werin yn dlawd, yn feddw ac yn anniwair. Canai'r "llanciau tywod" a'r "merched nyddu " eu meddyliau aflan; cym-