Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hellent ei gilydd i ddrygioni â chaneuon gwaith. Clywodd Goronwy hwy a ffieiddiodd eu dyrïau anwylion. Nid oedd meddwi'n bechod yn neb; ond yr oedd anniweirdeb yn ei ddosbarth ei hun yn bechod i foneddwr ac offeiriad. Duon oedd eu gwisgoedd hwythau, ac y mae pechodau athrawon yn athrawon pechodau. Cynhelid y gwylfabsantau ar y Sul, a chofiai Caergybi am Sul y creiriau. Gwelodd William ei wlad annwyl yn newid, ac ymlonnodd yn ddirfawr. Gwelodd ias gwanwyn y bywyd newydd yn ei Eglwys ei hun, ac yn offeiriaid ei eglwys ei hun. Yr oedd yno ddau neu dri o offeiriaid yn wir ddiwygwyr, er yn wrthwynebwyr selog i'r Methodistiaid. Parch i'r Sul oedd eu rhinwedd cyntaf, a pharch i'r Eglwys a'i hordeiniadau oedd yr ail.

Diddorol i Gymru gyfan, i gyhoeddwyr llyfrau'n anad neb, fyddai dalen o hanes llên ein cenedl yn ol y Morrisiaid yng nghanol y 18fed ganrif. Soniwn heddyw'n slip am lyfrau a gyhoeddwyd yn eu hamser, heb gofio am yr anawsterau, nac am amgylchiadau'r wlad. Pryd hwnnw, nid oedd yng Nghymru un newyddiadur i gyhoeddi pethau da am lyfr cyn ei eni; na threnau chwaith i gario llyfrau i wlad a thref cyn i'w cloriau glan frychu. Cludid Beiblau â llongau o Lundain i Gaergybi; ac oddi yno gwasgerid hwy'n bynau ceffylau ar hyd y wlad. Cyhoeddid "cynygion," fel eu gelwid, a chwilotid y wlad am danysgrifwyr, a'r rheiny yn nwylo'r ceiswyr enwau fel esgus i guddio eu swildod. Gofynnid tâl ymlaen llaw, pan geffid hynny, oherwydd mai pobl dlodion oedd y cyhoeddwyr, heb arian i dalu am argraffu. Hugh Jones, Llangwm, dlawd, a gyhoeddodd y "Diddanwch Teuluaidd." Ef ai fab hefyd a'i cariodd yn feichiau i'r derbynwyr. Dafydd Jones o Drefriw, dlawd, a gyhoeddodd "Y Flodeugerdd," a stiward stât Gwydyr a gasglodd rai o'r dyledion yn lle rhent. Yn yr amser hwnnw y cyhoeddwyd Beiblau 1746 a 1752; "Geiriadur" Richards, Coychurch, 1753; "Blodeugerdd," Dafydd Jones o Drefriw, 1759, a'r "Diddanwch Teuluaidd," 1763. Dalen ddiddorol yw hanes eu cyhoeddi. Pobl yn cyhoeddi un llyfr oedd awduron yr oes honno, fel rheol—yr oedd un llyfr yn ddigon o faich i ddyn am ei oes heb ddim ychwaneg. Baledi gwacsaw