Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd beiblau'r bobl. Cenid rheiny gan glerfeirdd, a gwerthid hwy o ffair i ffair. Difyrrion y gwr bonheddig a'r offeiriad oedd llyfrau, ond nid oedd rheiny i gyd yn awchus iawn amdanynt. Ystôr doreithiog yw y Llythyrau hefyd o hanes cymdeithas Mon, ei phobl a'i phethau, yn hanner olaf oes William Morris. Nid oedd y brodyr yn wleidyddwyr selog. Fel rheol rhoddent eu pleidlais yn y cafn pobi. Gwrthododd eu tad ddilyn yr arfer hon unwaith, a chafodd rybudd i ymadael o Bentre Rianell. Buddiol yn eu golwg oedd cymod pawb, a chas neb. Bu etholiadau blin ym Mon yn eu hamser. Nid Chwigiaid na Thoriaid oedd pleidiau Mon ar y pryd, ond cyfeillion a gelynion. A chan mai gelyniaeth bersonol rhwng boneddigion yr Ynys oedd asgwrn cynnen yr etholiadau, diwedd pump neu chwech o'r etholiadau'n olynol oedd petiswn i'r senedd yn erbyn yr aelod newydd. Pobl Niwbwrch oedd yn cynneu'r tân. Elent hwy bob tro i Fiwmaris fel bwrdeiswyr, a mynnent bleidleisio, er wedi hen golli eu dinasfraint. Gwelir yma hanes heintiau blinion ar ddyn ac anifail, hanes hafau sychion a thesog, hanes gaeafau rhewllyd, a'r bwyd yn brin. Cofnododd brisiau. bwyd y bwrdd a dillad y cefn. Pryd hwnnw, masnachai Mon ar ei throed ei hun. Elai llongau'n gyson o Gaergybi, Cemlyn, a Dulas i Afon Gaer a Liverpool i werthu yd, a phrynu yd i hau ar dymhorau celyd. Delai masnachwyr Ynys Manaw (Isle of Man) i'r wlad, i hel archebion am nwyddau, a gyrrent eu gweision coeg i hel y dyledion, y rhai a godent lawer chwaneg trwy gam achwyn. Ni chollodd yr Ynys lên gwerin y 18fed ganrif. Cadwyd ef yn ei iaith ei hun yn y llythyrau byw. Gwelir yma hen draddodiadau'n anwylo hen ofergoelion, hen chwareuon, ond a elwid yn chwareu tennis," a chwareu pel," a dechreu pob llwyddiant oedd cael "y bel ar dô." 'Roedd iaith y bobl 'radeg honno'n frith o eiriau estron, rhai yn hir a dieithr, heb ddim yn galw am danynt. Daethant yno, fel ar eu tro, heb arf nac arfer o dan eu dwylo. Ni newidiodd iaith lafar yr ynyswyr ond ychydig er's cant a hanner o flynyddoedd. Ysgrifenasant yn eu hymadroddion lawer o ddiarhebion y wlad, a chan eu bod yn gymenddoeth a phert, cyfansoddasant lawer o ddiarhebion eu hunain.