Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd oni chynhyrfid ei natur i ferw? Goronwy y bardd ydoedd a Goronwy'r ysgolor. Dyfnder ac uchter di led ydoedd. Gwell yw bywyd yn ymestyn o Ddwyrain i Orllewin ar hyd ffordd y goleuni, na bywyd yn esgyn hyd y ser, ond yn fywyd cul.

Medrai ganu'n wych pan yn hoglanc nwyfus, cyn deall am y drefn i gyflogi'r awen i ennill ei thamaid, cyn teimlo ei hun yn ei digio, ac yn gwylltio'r golomen i ffwrdd. Ond mewn amser byr, rhwng 1752 a 1758 y canodd ei ganau bron i gyd. Canodd i bersonau fel ar ddamwain, a chanodd agwedd fydol eu bywyd yn bennaf. Deallodd Shakspeare ddadleuon enaid oes y Dadeni. Clywodd Williams, cydoeswr â Goronwy, salmau calon oes y Dadeni newydd, ac astudiaeth o enaid a chymeriad ei gymdeithion oedd ei farwnadau. Ni chanodd Goronwy i gyfriniaeth calon cymdeithas. Canodd i Fon ag enaid y gân anfarwol, ond yr oedd mwy o ramant yn enaid yr eneth fach a adawodd ar ei ol yn Walton nag oedd yn wyneb mau donnog Mon o Benmon i ben Cor Cybi. Bu agos iddo yntau deimlo hynny, pan ysgrifennodd,—"Mae fy holl dylwyth i yma bod y pen, ond fy merch fach a fynnai aros ym mynwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi." Oronwy, nid ysgrifennaist a dy law ddim tlysach. Onid yw deigryn naturiol o galon dyner tad yn hardd? Paham na chenaist ei marwnad yn yr un dull syml. Nid gweddus gwisgo plant yn nillad hen oesau, na galaru amdanynt yng ngeiriau anarfer geiriaduron.

Ro Wen. O. GAIANYDD WILLIAMS.