Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth Goronwy yng nghysylltiadau ei fywyd. Dyna'r amser, ac nid cyn hynny, y gwelir ef yn ei oleu priod ei hun.

Bywyd bychan oedd bywyd Goronwy, er ei ysgolheigtod mawr, a'i awen graff. Ni welodd nemor ar fywyd ym Mon, dim ond ei ymylon main, a'r edafedd bron yn unlliw. Cefnen fel hen gomin oedd Rhosfawr, heb harddwch arni na graen; ond yr oedd Llanallgo'n well darn o gymdeithas, a Moelfre'n gartre pyscotwyr. Ni welodd yn yr ysgol a'r coleg, hyd yn oed yn Rhydychain, ond dysgeidiaeth bywyd hen a direidi bywyd ieuanc. Yn wir, anhawdd oedd cael hyd i gymdeithas yn ei amser, pawb yn byw yn ei helynt ei hun, a bron na ddywedaf, mai gwŷr y gler oedd ei phroffwydi. Ni welid cymdeithas yn ei ddydd ef yn gwenu a gwgu yn y newyddiadur, ni chipid hi ar ei heistedd am gannoedd o filltiroedd yn y tren, ac ni wyddai ddim am y mil myrdd mariannau a godwyd dan ei sawdl gan ddiwylliant diweddar. Ni welaf, ond olion encilion ar fywyd Goronwy. Astudiwch ef, a chwi a welwch ynddo ddeunydd arweinydd cenedl o gaethiwed, arweinydd gwerin tan gamp. Chwig ydoedd, a gwr na roddai ei gap i lawr i neb, deled a ddelo, costied a gostio. Ar adegau 'roedd yn wresog fel fflam, elai i'r eithafion yn ei ddig, a thorrai'r llechi yn ganddryll. Bu'n byw ar ymylon Croesoswallt, yn gweinidogaethu a chadw ysgol, ond hyd y gwelaf, ni adawodd ol ei law ar fywyd y dref. Aeth i Walton, Liverpool, a man yn y wlad o fewn rhyw bedair milltir i'r dref oedd Walton 'radeg honno. Ni soniodd nemor am ei swydd yno chwaith. Cadwai ysgol, cyfansoddai bregethau, ac ymwelai ambell dro a'r bobl. Nid oedd gan ei enaid flas ar gymdeithas yr estroniaid. Dyma ei brofiad chwithig,-" Nid yw y bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf fi, ond un radd uwchlaw Hottentots; rhyw greaduriaid anfoesol, didoriad " (Llythyrau Goronwy Owen, tud. 37). Yn Llundain yn unig y gwelodd fyd a bywyd, ac yno, er ei ynni ffraeth, y dangosodd yn eglur na fedrai gerdded yn nillad Saul. Yr oedd yn rhy gynefin a rhyddid dirodres i fedru tywyso ei hun ymhlith y rhodresgar, dibrisiodd werth gwen osod," a methodd ddefnyddio ei hun i'r fantais oreu iddo ei hun. A ddinistriwyd ef gan gwrteisrwydd ei farn? A ydoedd ef gwrtais