Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyn bychan oedd Goronwy, a dylem gofio hynny wrth farnu ei fywyd, a phwyso peth ar ei dymer wrth bwysau ei gorff. Dyma dystiolaeth y Morrisiaid am ei faint,

"Mi wrantaf na wnaeth Esgob Bangor ddim er y bardd bach, lle da yw disgwyl." Cyf. i., tud 381.

"A ddarfu'r gwaed ffromwyllt ffrydiaw allan drwy droed y Llew ac ynte ddyfod atto ei hun a maddeu gwendid yr Oronwy? Os do, nid hwyrach iddo ymgoleddu ychydig ar ei waith o ac eraill feirdd, ie, a dodi cennad i'w farddoniaeth ei hun daring tan do unto ar eiddo'r Bychanfardd." Cyf. ii., tud. 91.

Pan aeth i Walton tynnodd ddarlun doniol o'r offeiriad a'i was newydd, un yn brasgamu, a'r llall yn mangamu o'r ystafell wisgo i gymdogaeth y ddesg a'r pulpud, a medraf feddwl am yr addolwyr yn colli eu moesau eglwys wrth gymharu maint y llongau a garient iddynt ymborth y wlad bell,

"Climmach o ddyn amrosgo ydyw-garan anfaintunaidd—afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled Arthur, anhygoel, ac wynepryd llew, neu ryw faint erchyllach, a'i drem arwguch yn tolcio ym mhen pob chwedl ddigrif, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affrica. Yr oedd yn 'swil gennyf ddoe wrth fyned i'r Eglwys yn ein gynau duon fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bâd ar ol llong." Llythyrau Goronwy Owen, Arg. Liverpool, tud. 37.

Wrth reswm, bardd a dynnodd y darlun dirodres hwn, nid yw yn waeth o hynny. Dywedir yn gadarn heddyw, y medrai Goronwy ganu ffeithiau barddonol, ac mai Calan barddonol oedd Calan ei eni. Credaf, er hynny, mai darlun o Mr. Brooke, ei noddydd yn Walton, yw y darlun direidus. Canodd ei hun am faint ei gorff yn " Arwyrain y Nennawr,"—

"A gwiw faint fy holl gyfoeth,
Yw lleufer dydd, a llyfr doeth,
A phen na ffolai benyw
Calon iach a chorff bach byw."

Yn y Gwyliedydd, Llyfr vii., tud. 120, dywedir mai Dyn bychan hardd, bywiog, gwalltddu oedd ef." Pa fodd bynnag, dyna ddigon o dystiolaeth ddiamwys ymlaid, mai gwr bychan o gorff oedd yr anfarwol Oronwy. Daw adeg, yng Nghymru, meddaf eto, pan gymer eneideg ei rhan ym meirniadaeth y wlad, a hi a esbonia farddon-