Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy Owen a'r Morrisiaid.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

danbaid. Nid wrth liw ffaith y mae barnu'r ffaith ei hun. Canodd Goronwy gywydd, pan oedd barrug ar ei galon, i Lewis Morris, ei hen gyfaill, a lliwiodd hi'n fflamgoch, nes y gwelodd yn briodol ei galw'n Gywydd i Dd-1; ond cred pawb, hyd yn oed heddyw, mai cywydd i Lewis Morris ydoedd. Gwyddai'r brodyr hynny'n dda. Tâlodd Lewis i'w hen gyfaill y pwyth yn ol hyd yr eithaf, hyd oni chollwyd Goronwy'r offeiriad bucheddol yn y bardd meddw. Arwriaeth beirdd yn afiaeth tymherau drwg oedd y campau hyn. Ond nid wrth dywydd noson o ddrycin, y mae ysgrifennu hanes hin gwlad. Darlun du yw darlun Lewis o Oronwy yng Nghymdeithas y Cymmrodorion, ond digon gwir, er bryntni'r adrodd. Bu'r brodyr yn ddigon gonest i addef hefyd i Rhisiart feddwi droeon yn yr un Gymdeithas, gan gysgu tu allan i ddrws ei dŷ ei hun, hyd oni ddelai'r "curwr i godi" heibio, a'i ddeffro o drugaredd. Meddwodd William Morris droeon, ac edliwiodd iddo ei hun yr ynfydrwydd, nid oherwydd fod y meddwi'n bechod yng ngolwg ei gydwybod, ond am y byddai ei gorff yn ddrwg ei hwyl am ddyddiau ar ol yr asbri anghynefin. Rhinwedd diweddar yw Dirwest, rhinwedd gogoneddus a dyfodd yn Ymneilltuaeth y wlad. Bu amser pan roddid cwrw fel lluniaeth gymedrol i Weinidogion Ymneilltuol cyn esgyn i'r pulpud i gyhoeddi'r gair. A barnu'n deg fywyd cymdeithas y 18fed ganrif, yr oedd cwrw'n rhan o ymborth beunyddiol y bobl, yn ddiod yr oes, ac yn ddiod a hoffid yn fawr, a meddwi'n fwy o anhwylustod nag o fai. Yr oedd gwedd o fwyta bara ac yfed gwin, hyd yn oed ar gymundeb yr Eglwys. Elai'r offeiriaid i'r tafarnau yn ol eu dyletswydd, ond disgwylid iddynt yno roddi esiampl dda o gymedroldeb. Dylem gofio safon foesol oes hyd yn oed wrth feirniadu beiau offeiriaid, a goddef iddynt bethau goddefedig eu hamseroedd. Iberiad bychan oedd Goronwy, ond heb lawer ynddo o gyfriniaeth bruddfwyn y llwyth gwannaidd hwnnw. Tymer yr amgylchiadau oedd tymer ei fywyd, yn llawen yn yr hindda, ac yn brudd yn y ddrycin. Canodd hiraeth ei galon yn odlau gogoneddus, a rhedodd ei ddigalondid yn ffrydiau chwerw i actau anwadal ei fywyd. Y mae salmau dyn yn adlewyrchu ei fywyd, a phrofiad dyn yw ei esboniad arno ei hun.