Cerddai y Cadeirfardd drwy y dref gyda chleddyf yn ei law, a'r beirdd urddedig yn orymdaith drefnus ar ei ol Cymerai yr urddiad le yn Mhant-y-gareg-wen, oddiar y dref, lle y cynnelid yr orsedd. Dygid pobpeth yn mlaen yn weddaidd a defosiynol.
Pan oddeutu pump-ar-hugain oed, teimlai Dewi yn awyddus i fyned oddi cartref, er mwyn gweled ychwaneg o'r byd, ac ymberffeithio yn fwy yn ei gelfyddyd. Aeth i aros i Lanfyllin; cafodd waith gan un boneddwr hynawas a elwid Morris Bibby, Ysw. Yno y daeth yn gydnabyddus; â William Edwards, (Wil Ysgeifiog), yr hwn yntau oedd saer melinau. Yr oedd ganddo luaws o ystorion difyr mewn cysylltiad â'r bardd fraethbert hwn. Yn Llanfyllyn, y pryd hwn, y cyfansoddodd efe y gân fechan dlos ar "Babell Morris Bibbi".
Un tro, yn yr adeg hon, yr oedd ef a dau neu dri o'i gydweithwyr yn myned oddiwrth eu gwaith i weithio mewn lle arall a baich o arfau ar eu cefnau. Erbyn iddynt gyrhaedd Llanfyllin yr oedd yn gwlawio yn drwm. Troisant i mewn i ymochel i dafarndy adnabyddus iddynt; a thra yr oeddynt felly yn ymdwymo ac ymsychu o gwmpas y tân, daeth gŵr dieithr i mewn, wedi gwlychu yn lled ddwys, a golwg lled flinedig arno. Galwyd arno yn mlaen, a thynwyd ymddyddan âg ef. Cyn hir, fe ddeallwyd beth oedd ei neges ef - mai ar ei ffordd i Lanbrynmair yr oedd efe, at yr hen Gonsuriwr adnabyddus oedd yn byw yno, a elwid Doctor Roberts. Dyrnwr, mae yn ymddangos, ydoedd y dyn, yn gweithio mewn ffermdy ar derfyn Sir