"Thâl hwna ddim byd," meddai Dafydd, "aros di dipyn bach, ac mi wnaf fi un gwell na hwna iti". Ac yn mhen ychydig dywedodd wrtho am anfon yr englyn canlynol i Huw:-
"Am gyllell, hen gyfaill rwy'n gofyn, — finiog
Ofynaf gan Huwcyn,
A eillio megys ellyn
Yn sych deg ar swch dyn."
Yr oedd efe y pryd hwnw o bymtheg i ddeunaw oed, yr hyn a ddengys fod rhywbeth a fyno â phrydyddu pan yn ieuanc, a'i fod yn adnabod y gynghanedd yn lled foreu.
Ymunodd Chymdeithas y Cymreigyddion ar ei chychwyniad, neu yn bur fuan ar ol hyny. Yr oedd yn Nolgellau yr adeg hono luaws o feirdd a llenorion galluog ac egniol, megys Gwilym Cawrdaf, Llywelyn Idris, Meurig Ebrill, Ieuan Awst, Ioan Gwernen, Lewis Meirion, ac eraill, Byddai cyfarfodydd y Gymdeithas yn ddyddorol dros ben. Mynych y gwelid enw Dewi Wnion yn nglŷn â hanes y cyfarfodydd hyny.
Glywsom ef yn adrodd yn ddoniol am yr amser y cafodd ei urddo yn fardd with fraint a defod. Yn ol arferiad llawer o'r frawdoliaeth, gwisgai yntau ddiwrnod ei urddiad glos pen glin gyda byclau prydferth ar benau ei liniau. Y deuddegfed o Fai yn wastad fyddai y diwrnod urddo, hyny, debyg genym, o herwydd mai ar y diwrnod hwnw, yn y flwyddyn 1821, y cychwynasid y Gymdeithas yn Nolgellau. Cawrdaf yn unig, drwy ei fod yn Fardd Cadeiriol, a feddau'r hawl gyfreithlawn i urddo beirdd.