Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd yr hen ŵr ei dad yn gweithio wrth y fainc gerllaw, ac wedi clywed yr holl ymddyddan, pan welodd yr aderyn wedi ei ddal, efe a gynhyrfodd yn ofnadwy. Dylid cofio fod llawer iawno son am "gonsurio" a "chonsuriaeth" yn y dyddiau hyny yn Nghymru. "Y mae'r Drwg mewn peth fel yma, Deio, y mae o hefyd; does bosibl dy fod di wedi cael gafael ar y llyfrau drwg yna; ac wedi gwerthu dy hun i'r Cythraul! Sut gebyst, oni b'ai hyny. y gwyddet ti y gallai yr hogyn ddal y deryn!" Aeth yn helynt sobr ar Dewi, a chafodd drafferth enbyd i argyhoeddi ei dad nad oedd a fynai y Gŵr Drwg, na chonsuriaeth, na dim o'r fath â'r amgylchiad; ac fod y cyd-ddygwyddiad yn gymaint gryndod iddo ef ag ydoedd i neb arall. 

Y mae yn anhawdd dyweyd pa pryd y tueddwyd ei feddwl gyntaf at farddoniaeth. Creda rhai y rhaid geni dyn yn fardd; ac eraill mai "dawn natur pob dyn ytyw" yr awen. Pa fodd bynag y mae yn wirionedd amlwg, os na enir dyn yn fardd, y rhaid iddo feddu galluoeddd naturiol a fyddont ffafriol i farddoni, cyn y cymer yn rhwydd i gyfeiriad yr awen. Gredwn fod doniau naturiol y llanc Dafydd yn ei wneyd yn hawdd i'r awen ei fabwysiadu, a phe gwnaethai ymdrech cyffredin, diau y gallasai fod yn eistedd yn mysg prif-feirdd blaenaf ei wlad. 

Yr oedd Huw ei frawd, hŷn nag ef, yn aros yn yr Amwythig, a cheisiai Rowland, brawd arall iddo, ieuengach nag ef, wneyd englyn i ofyn i Huw am anfon cyllell iddo ef o'r Amwythig, ac fel y canlyn y canai y brawd hwnw :- 

"Huwcyn bach, os wyt yn iach,
Anfon imi gyllech fach";