Mae profiad mwy prudd yn dyfod bob dydd,
Rhyw gystudd ar gystudd a gaf,
A thrallod ar drallod, fel syndod im’ sydd,
Does undyn drwy’r gwledydd mor glaf.
Er trymder ar drymder o brudd-der i’m bron,
Er llesged' y galon gan gur—
Er corwynt yn curo nes suro’r oes hon —
Goreuon ei swynion yn sur—
Er trist alar trwm, a blinder yn blwm,
Na ollwng eich rheswm yn rhydd—
Yn araf myfyriwch, mesurwch ei swm,
Mae terfyn i’w gwlwm tan gudd.
A chwi’r hyn ammododd ymglymodd yn glau,
A chadwodd ei geiriau’n ddigoll,
Ni wnaed yr ammodau ar eiriau i barhau,
Rhoed terfyn yn angau i’r rhai ’n oll;
Gadawodd y byd, a’i gysur i gyd,
A chwithan, ’i hanwylyd, yn ol;
Y Gŵr mwyaf garodd a’i prynodd mewn pryd,
Ehedodd i’r gwynfyd i’w gôl.
Er iddi hir orwedd yn llygredd y llawr,
Malurio bob awr yn y bedd,
Daw’n rhydd o byrth angau yn morau’r dydd mawr
Mor ddysglaer a’r wawr ar Ei wedd;
Myn Iesu’r pryd hyn ei seintiau, mae’n syn,
O feddiant y gelyn i’w gôl,
Ee’u cesglir i’r golau o gloiau du’r glyn
Heb adael un ewin yn ol.