Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mawl croch i'w Moloch milain—a seiniai.
A llawenychai pan oedd llu yn ochain.


Haneswyr yr hen oesau—a dystiant
Am doster eu brwydrau;
Enwau arwyr, gweithwyr gau,
Lanwant eu tudalennau.

Gwlad yr Aifft, am glod yr oedd,
Trwy foliant ei rhyfeloedd;
Ei Pharoaid, deyrniaid dig,
Oll oeddynt yn llu addig.
Bu ereill yn ffreweill ffrom.
A'u llywodraeth yn llawdrom,
I ddal y byd dan dduloes,
A iau'r Aifft am lawer oes.
Assyria fu draws erwin,
A mawr bla am dymor blin.

Amryw olynwyr i Nimrod,—yn draws,
A dreisient awdurdod,
A min cledd er mynnu clod—Belus,
Semiramis, a Ninus, fu'n hynod.

Wedi hyn, codai hynod—enbydus
Bedwar o twystfilod;
Pedwar mwy 'u bar yn bod—am rwygaw,
Tynnu, a drylliaw y byd tan drallod.

Caldea yn gynta' gaid,
Llew anian oedd ei llonnaid;
A'r ail, fel arth yr olwg,
Sef Persia, gwaetha' ei gwg:
Y trydydd, Groeg, fu'n troedio,
Arwa 'i drych, fel llewpard, dro:
Yn ola', d'ai í oleu dydd,
Y du arwach bedwerydd;