Rhufain, a'i gallu rhyfedd,
Dig iawn, ac ofnadwy 'i gwedd.
Bwystfil hyll, un erchyll oedd,
O lawn nwyd, creulawn ydoedd;
Dannedd heiyrn cedyrn, certh,
Yn ei wgus safn hygerth;
Dannedd i rwygo dynion,
Ai i'w raib y ddaear hon.
Rhifid ar ei ben rhyfedd
Ddeg o gyrn addig eu gwedd;
Cnoai a chorniai 'n dra chwyrn,
Yn ei rwysg torrai esgyrn.
Y byd oll; ac ni bu dyn
Wnai arbed godai i'w erbyn.
Dyna y bwystfil anwar—am oesoedd
Fu'n gormesu 'r ddaear;
A dwyn y byd yn eu bâr,
I ofid a thrwm afar.
Nebuchodonosor fu rychor uchel.
Ei ddawn i rifo myrddiynau i ryfel;
Hwn ni adewai y byd yn dawel,
Dodai bawb o dan awdurdod Babel;
I'w ogoniant wag anel—cenhedloedd,
A theyrnasoedd a fathrai 'n isel.
Cyrus, a Darius, wŷr croes a dewrion,
A rhyw lu hefyd o'u hagr olafion;
Lledu galanas, Ilidiog elynion,
A gwae, a dinistr wnaent yn mysg dynion;
Eu rheolaeth fu greulon—ar wledydd,
A thrwm oer dywydd, orthrymwyr duon.
Yna y Bwch godai 'i ben
Llidiog, flewog, aflawen :
Bwch Groeg, y bachog rwygydd,
Un o'i fath, ni fu, ni fydd;
Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/101
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon