Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pob gelyn gwnai pawb gilio.
Rhag gwg ei ddu olwg o:
El lid trwy'r ddaear lydan,
A gerddodd, maeddodd bob man.
Hwn yn flaenaf gyntaf gŵr,
Drafaeliai 'n gadryfelwr
I Frydain, i'w hafradu,
Gyda'i arfog lidiog lu;
A dwyn henwlad ein tadau
Wnai'n gaeth dan Rufeinig iau.
Un didosturi—do, diystyrrodd
Haeddiannau dynol, hedd ni adwaenodd;
I drist angen y darostyngodd
Wledydd lawer o nifer, anafodd;
I dylodi dyludodd—fyrddiynau,
A dirif fywydau o'n daear fedodd.

Ar ei ol ef, ymerawdwyr lu—godent,
I gadarn lywyddu;
A rhyw filain ryfelu,
Am hir faith dymhor a fu.

Y Scythiaid, a'r Parthiaid pell,
Saraceniaid yn haid hyll,
A'r Tyrciaid diriaid eu dull,
Fu ryfelgar, anwar oll.
Ond eilwaith, mwy fu duloes
A grym Rhyfeloedd y Groes,
o blaid offeiriaid gan ffydd,
A hagr ofer goelgrefydd:
Mynach dig, dieflig ei dôn,
A daniai nwydan dynion;
Ewrob, yn swn ei araeth,
Oll i gyd, gorffwyllog aeth.