Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I Asia aent, wallgof seintiau—'n orwyllt,
Aneiri' fyrddiynau;
Fal addig egron fleiddiau—creulonwedd,
Nwydau celanedd lond eu calonnau.

Enw Iesu wanasant—a'u seintiau
'I groes santaidd gablasant,
Pan yn gas yr honasant—wneyd anrhaith
Hyll y rhyfelwaith oll er ei foliant.

A'i dwyll, y pab a'u dallai—
Addaw nef i'w fleiddiau wnai,
O dygent, lu melldigaid—Ganan dir
O ddwylaw enwir yr anffyddloniaid.

I lwyddaw rhyfel addig—rhoi dyfais
Ryw dafod nodedig;
Iaith a dawn i draethu dig,
Yn ei enau gwenwynig.

Pylor i luchio pelau—o foliau.
Ufelawg gyflegrau:
Ar ddynion yn fyrddiynau—gyrr y tân
Ei ddur allan i'w gwneyd yn ddrylliau.

Oer ryngiad gwddf yr angau,—rhu anwar
Brenin dychryniadau;
A bwria hwn i barhau,
Fawr lwythog farwolaethau.

O! 'r wedd anaele ai ar ddynoliaeth,
I ddiofrydu ei hun i ddifrodaeth!
Rhoi 'i holl synwyr ar hyll wasanaeth
Ei mawr elyn, sef angel marwolaeth.
O! wele! dygai i'w alwedigaeth
Erwin niweidiol rym ei dirnadaeth,
I greu trueni, gweli, ac alaeth,
Iddi ei hunan yn ddiwahaniaeth;