Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hi ddodai gelfyddydaeth—i lunio
Ei harfau i lwyddo rhyfelyddiaeth.

Nid dieuog fuost ti, O Awen!
Weithiau o ganu i chwythu y gynnen;
Ei fawl nyddaist i ryfel anaddien,
A rhedai yn ebrwydd ei fri dan wybren.
Llawer 'rol Homer, fardd hen—fu'n canu,
Yn wir, gan fagu díalgar genfigen.

Amryw ddynion mawr o ddoniau,—oeddynt
Drwy'r diweddar oesau,
A'u bryd ar ennyn bradau—rhyfeloedd,
A hynny ydoedd yn tanio 'u nwydau.

Napoleon, eon ŵr,
Hwnnw fu'r pennaf arwr:
I ryfel, prif angel oedd,
A rhuswr mwya'r oesoedd.
Lloriodd holl allu Ewrawb,
Mynnai warrau pennau pawb;
Dymchwelodd, lluchiodd i'r llaid,
A dyrnodd ei holl deyrniaid.
A garw fraw ger ei fron,
Crynnent fel deiliach crinion:
Torri i lawr yn Waterlw,
Oedd hanes diwedd hwnnw.

Ninnau sydd yn y deyrnas hon—ar ol
Yr helynt echryslon,
Ar lethu dan orlwythion—trwm echrys,
Dyledion erys i dlodi 'n hwyrion.

O ryfel angel ingoedd,
Dy fyw lid, difaol oedd;
Pob melldith yn dryblith drom,
Ddig ornest, ddygi arnom.