Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un anhosturiol, Ha! ni ystyrri
Boenau trueniaid ban y'u tryweni ;
Dagrau heilltion y gweddwon a'u gweiddi,
Yn dremwgus, tydi a'u dirmygu :
Amddifaid gwirion, taerion, watweri,
Y rhai anwyl, gwnait ladd eu rhieni:
A'th hyddewr galon ni thawdd er gweli
Poenau henaint dan eu penwyni.
Pwyi fabanod-ai rhagod, rhwygi
Y beichiogion, a'u loesion ni lysi;
Trwy anian hau trueni-wnai 'mhob modd,
A garw yw adrodd dy ddig wrhydri.
Dy hyfrydwch erioed yw difrodi
Bywydau dynol, gwae 'r byd o d'eni,
Wyd dad 'i ofid, ei waed o hyd yfi,
A thoi ei wledydd a wnei å thylodi;
Dinasoedd yn dân ysi,-teuluoedd
Wnei heb aneddoedd na neb i'w noddi.
Dygi y newyn wedyn a nodau,
Hynt annedwydd pob haint a niweidiau;
A thaeni wewyr a phoethion waeau,
A chas anadl dy afiachus enau;
Gan agor y llifddorau-a dwyn dig
Yn ddiluw addig o ddialeddau.


III.

Adfywia, cyfod f'awen,
Dwyre 'nawr hyd awyr nen;
Ymeneinia 'm mun anwyl,
Yna rho'th delyn ar hwyl.
Gwlych dy ddestlus wefus wan
Yn hen wlyboedd gwin Liban: