Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Efo'r oen, heb chwerw fryd,
Rhyfedd y chwery hefyd.
A'r llewpard brych ei wrychyn
Ar y maes, a chwery â'r myn:
Ar dwll yr asb, er ei dig,
A'i hen anian wenwynig,
Bachgen llon y fron heb frad
A chwery heb och irad:
A chwery un bach arall,
Yn ddifraw ger llaw y llall,
Efo'i law'n ddiofal iawn,
Ar wâl y wiber greulawn;
Hon o'i ffau estyn ei phen,
Ni fratha'r wiber frithwen
Y bach, ei groesawn bydd,
Ar ei lin yn bur lonydd.

Daw adgas drigias dreigiau,-dir anial
Dan driniaeth, dwg ffrwythau :
Wele hwn ar ol ei hau,
Dry wedyn yn dir ydau.

Todda'r mynyddau, bryniau wybrennol
Wneir yn wastad-dir, frodir hyfrydol:
I'w pwynt e lenwir pantau olynol,
Hefyd unionir yr hollfyd anianol:
Y byd wregysir, dygir yn gymdogol,
Heb ball hefyd, genhedloedd pellafol:
Ac wele dygir goleu diwygiol
Trwy rym arfeddyd celfyddyd fuddiol;
E gerdd yr agerdd rwygol-trwy bob man,
Daw'n ddiau allan fyd newydd hollol.
Hen ddreigiau mwy ni ddrygant,
Tueddu 'n wir at hedd wnant:
E dawdd nerth annedwydd nod,
Hyll falais y gwyllfilod.