Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mewn llwydd ar fynydd dedwydd y Duwdod,
Hynaws eu helfen gwnant eu preswylfod;
Ni ddaw du ragfarn mwy i'w hedd drigfod,
Na llaw camwedd i fallu eu cymod:
Enw glân yr Ion a'i glod-ddyrchefir,
A'i fawl a seinir yn felus hynod.
Gwawr deg y waredigaeth,
Yn nwyrain nef torri wnaeth:
Y'nghyflawnder amser Ion,
Ei ddidwyll addewidion,
Cyflawnwyd, gwiriwyd heb goll,
Eu dygid i ben digoll.
Yn ol y broffwydoliaeth,
Mab Duw'n ddyn y'mhob dawn ddaeth;
I'n dwyn ni a Duw yn ol,
I gu heddwch tragwyddol.

I ddwyn yn un ddynion anwar,—difa
Pob dyfais ryfelgar;
Newid tuedd plant daear—
Hedd i fyd trwy ladd ei fâr.

Oen Duw, pan y ganed ef,
Llawenodd yr holl wiwnef.

Llu y nefolion llawenaf wylient,
Yn niferoedd i Beth'lem cyfeirient,
Y bore 'i genid; a hwy a bêr ganent,
I'w Hosanna'r wybrennau a seinient:"
Banerau heddwch uwch ben a roddent;
Yn chwa yr awel fwyn y chwareuent:
Cerubiaid Eden wen a ymunent,
Yn yr alaw gyda'u brodyr eilient;
Eu llidiog gleddyf tanllyd a gladdent,
Oll yn y wain am byth, a llon wenent;