Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BEDD WILLIAMS O'R WERN.

DYMA'R fan mae'r tafod hwnnw
Gynt ro'i Gymru oll ar dân,
Wedi 'i gloi yn fudan heddyw,
Yn isel—fro 'r tywod mân;
Ar y wefus fu'n diferu
Geiriau fel y diliau mel,
Mae hyawdledd wedi fferru,
Clai sydd arni, mae dan sel!

Cwyno wna dy frodyr gweiniaid,
Williams, heddyw am danat ti,
Megys eiddil blant amddifaid
Am eu tad yn drwm eu cri;
Mae dy enw yn argraffedig
Ar galonnau myrdd a mwy,
Mae dy goffa'n fendigedig
Ac yn anwyl ganddynt hwy.

Son am danat mae'r eglwysi,
Bob cyfarfod d'ont yn nghyd;
'R hen bregethau fu 'n eu toddi
Gynt sydd eto yn eu bryd;
Merched Sion, pan adgofiant
D'enw a'th gynghorion call,
Ceisiant adrodd, buan methant,
Wyla hon, ac wyla 'r llall.

Pe b'ai tywallt dagrau 'n tycio
Er cael eilwaith weld dy wedd,
Ni chait aros, gallaf dystio,
Hanner munud yn dy fedd:
Deuai 'r holl eglwysi i wylo,
A gollyngent yn y fan,