Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ffrwd ddigonol i dy nofio
O waelodion bedd i'r lan!

Williams anwyl! llecha dithau
Mewn distawrwydd llawn a hedd;
Boed fy neigryn gloew innau
Byth heb sychu ar dy wedd;
Haul a gwynt! mi a'ch tynghedaf,
Peidiwch byth a'i gyffwrdd ef,
Caffed aros haf a gaeaf,
Nes rhydd udgorn barn ei lef.

Darfu 'r llafur a'r gofalu,
Teithio trwy y gwlaw a'r gwynt,
Fel bu wrth bregethu a chasglu
At addoldai Cymru gynt;
Darfu 'r llafur, darfu 'r cystudd,
Darfu 'r peswch, darfu'r boen,
Darfu marw—ond ni dderfydd
Ei lawenydd gyda'r Oen.

Ca'dd yr orsedd, ca'dd y goron,
Ca'dd y delyn yn ei law;
Ac y mae wrth fodd ei galon
Gyda 'r dyrfa 'r ochr draw:
Caiff ei gorff o'r Wern i fyny,
Foreu'r adgyfodiad mawr,
Wedi ei wisgo ar ddelw Iesu,
Yn disgleirio 'n fwy na'r wawr.