Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymbriododd yn ieuanc ag Ann Edwards, Waun, Nantglyn, yr hon a fu yn gymorth i'w wneyd "yn ddedwydd yn ei dylwyth, yn llwyddiannus yn ei weinidogaeth, ac yn anwyl gan ei holl frodyr." Oherwydd ei medr a'i darbodaeth hi y gwelodd Gwilym Hiraethog lwybr iddo adael Llansannan, i ymroddi i bregethu yr efengyl. Yr oedd wedi teimlo'n ddwys dan ddylanwad cewri'r pulpud yn yr adeg honno, a Williams o'r Wern oedd ei hoff bregethwr. Dechreuodd ei waith crefyddol fel athraw plant yr Ysgol Sul; pan ddechreuodd bregethu, cafodd glust y wlad ar unwaith oherwydd poblogrwydd ei frawd hynaf, ac yna oherwydd amrywiaeth swyn ei genadwri ei hun, mewn pregeth neu ddarlith. Yn 1828 cafodd y wobr gyntaf am gywydd ar "Gantre'r Gwaelod", ac ail wobr am gywydd ar " Ymdrech Buddug," yn Eisteddfod Dinbych. Ymhen dwy neu dair blynedd wedyn gadawodd ef a'i wraig a'i dri phlentyn Lansannan, ac aeth i Fostyn yn weinidog. Pan urddwyd ef, yn Ebrill 1832, yr oedd yno yn y cyfarfod, ymysg ereill, Williams o'r Wern, a Michael Jones o'r Bala, a Henry Rees. Tra ym Mostyn ymroddodd bron yn hollol i'w waith ac ychydig ganodd. Y mae Cwymp Babilon yn dangos, nodwedd ei feddwl yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1837 symudodd i Ddinbych, Yno daeth i gyflawnder nerth—yn dywysog ymysg pregethwyr, yn flaenor gyda phob achos da. Gwnaeth waith amhrisiadwy dros lenyddiaeth