Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru, yn enwedig trwy ddeffro meddyliau pobl ieuainc. Nid oedd ei ysgrifbin yn llonydd ychwaith; ymysg cyfrolau ereill, cyhoeddodd draethawd "Crefydd Naturiol a Datguddiedig", a "Chofiant Williams y Wern". Ym Mai 1843, symudodd i Lerpwl. Yno ymgymerodd â thasg gynhigiasid gan ŵyr grymus cynt; ond ni fuasai llwyddiant hyd yn hyn. Pan gyhoeddwyd rhifyn cyntaf Yr Amserau, Awst 23, 1843, dan olygiaeth Gwilym Hiraethog, teimlodd pawb fod gwerin Cymru o'r diwedd wedi cael llais. Ond trwy ymdrech galed y bu'r Amserau byw yr oedd ei gyhoeddwr gwladgarol yn colli arian arno, ac yr oedd y golygydd yn rhoi iddo "ffrwyth yr oriau a latratesid oddiar gwsg y nos." Pan oedd goleu'r Amserau ar ddiffodd, dechreuodd "Llythyrau'r Hen Ffarmwr ymddangos ynddo; ac o hynny allan ni fu Cymru'n foddlon ar fod heb bapur newydd. A thrwy'r dyddiau cythryblus,—dyddiau Mazzini a Garibaldi a Kossuth, chwyldroadau'r Cyfandir, a diddymiad treth yr ŷd, a deffroad gwerin Cymru, bu'r Amserau yn oleuni ac yn arweiniad. A daeth Gwilym Hiraethog trwy'r wlad fel darlithydd, yn ei rym ysgubol; dangosodd i'w bobl ogoniant emynau Pant y Celyn, rhyfeddodau natur, a'r egwyddorion mawrion oedd yn dymchwelyd gorseddau Ewrob yn chwyldroadau 1848.

Felly, weithiau dan heulwen ac weithiau dan gwmwl, tyfodd yn allu. Yr oedd ei bresenoldeb fel presenoldeb llu. Cymylau duaf ei fywyd oedd colli ei ferch ym Mostyn, a mab