Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar ei wefus: melus odiaeth,
Yw ei enau, fel y gwin.
Ar ei ruddiau mae lledneisrwydd,
Purdeb ac addfwyndra 'nghyd,
Yn rhyw hyfryd gydgymysgu,
Iesu, tegwch wyt i gyd!


Holltau'r Graig.

PAN oedd Sinai yn melltenu,
A'i tharanau 'n rhwygo'r nen,
Cwmwl tanllyd ei melldithion
Ar ymrwygo uwch fy mhen,
Nef a daear yn fy ngwrthod,
F' erlid wnai 'r uffernol ddraig,
Yn fy mherygl a'm cyfyngder,
Ces ymguddfa 'n holltau 'r graig.

Dyma'r fan y gwnaf fy noddfa,
Yma llecha f'enaid gwan,
Pan fo'r gwynt a'r tonnau 'n curo,
Dyma'r unig dawel fan;
Rhued byd ac uffern greulon
Yn eu llid i'm herbyn mwy,
Minnau 'n holltau 'r graig a ganaf,
Ac nid ofnaf monynt mwy.

Ac yn nydd y farn ofnadwy,
Pan y ffy'r mynyddau mawr,
Ac y syrthia ser y nefoedd
Megys ffigys ir i lawr,
A'r elfennau 'n cydymdoddi,
Gwres yn berwi tonnau 'r aig,
Dewrion fyrdd yn bloeddio 'n chwerw,
Canaf fi yn holltau 'r graig.