Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pwy, Pwy YW EF?

PWY, pwy yw ef sy'n dod i lawr
Trwy euraidd byrth y nef yn awr,
Mewn gallu a gogoniant mawr?
Mae'n bur ei wedd, fel bore wawr;
Mae'n hardd yn wir:
Mae'n dod, mae'n dod, yn nes, yn nes,
Fe wrida 'r nefoedd fel y pres,
Tawdd y cymylau gan ei wres;
Ai melldith ddwg, ai ynte lles?
Genhadwr pur.

Beth, beth sydd ganddo yn ei law?
Ai udgorn yw?—mae'n peri braw!
A ydyw diwedd byd ger llaw?
Ai dedryd olaf natur ddaw
O'i enau ef?
Mae 'n dodi 'r udgorn wrth ei fin,
Gan dynnu anadl iddo 'i hun,
I'w dywallt allan yn gytun
Mewn udgorn floedd, na bu'r fath un
O dan y nef.

Gwrandewch! gwrandewch! holl luoedd
Ac ystyr dithau, ddaear gref,
Ar swn ei lais, a sain ei lef;
Pob gair a ddaw o'i enau ef,
Sy'n bwysig iawn:
Distawrwydd dwfn deyrnasa 'n awr,
Ac astud wrendy nef a llawr,
Y ryfedd genadwri fawr,
Sy'n dod o'i enau, angel gwawr,
Mewn nerthol ddawn.