Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YR ANGEL.

"Syrthiodd, syrthiodd, Babilon,
I lawr, i lawr, i lawr aeth hon,
Dan farn a gwg yr Iôr;
O'i mawr ogoniant hyrddiwyd hi,
A nerth anfeidrol ruthr cry',
Fel melin faen i'r dyfnder du;
Mae tonnau'r môr
Yn golchi dros ei gwedd;
A llw Iehofa 'n sicrhau
Na chyfyd byth o'i bedd!

"Wel, byddwch lawen, lawen iawn,
Chwi nef y nef yn awr;
Ac unwch chwithau yn y gân
Holl luoedd daear lawr.'


CYDGAN NEF A DAEAR.

"Addolwn, moliannwn, crechwenwn, fe ddaeth
Dydd dial ar Babel, fe'i daliwyd yn gaeth;
Dwrn Duw Hollalluog i'r llawr a'i tarawodd,
Ac anadl ei enau fel brwmstan a'i taniodd.
Haleluiah—y mae ei mŵg yn dyrchafu,
A'i lludw ar aden y corwynt yn chwalu:
Addolwn, moliannwn, crechwenwn, fe ddaeth
Dydd dial ar Babel, fe'i daliwyd yn gaeth."