O! EIN daear andwyol— ei chyflwr,
Och! ei haflwydd moesol;
Arni saif truenus ol
Briwiau y cwymp boreuol.
Dygwyd ei chreadigol—addurniar.t
Oddiarni yn hollol,
Ei hafddydd newydd yn ol
Droai'n nos druenusol.
Y chwiorydd, Hedd a Chariad,—oedd gwir
Hawddgarwch y cread;
Tirion ces eu teyrnasiad,
Bri hon fu o fyr barhâd.
Un Sabbath llawn o seibiant—yn dywydd
O dawel orffwysiant,
Fu i anian yn fwyniant,
Cyn troi 'i thon, cyn torri 'i thant.
Y bore hwnnw, y ser wybrenol
A gydganasant mewn nwyfiant nefol;
Tonau cariad o'u tannau cyweiriol,
A glybu 'r ddaear fwynwar glustfeiniol—
Hon wnai anfon yn ol—i lys nef lân
Adseiniau eirian y gân blygeiniol.
Holl feibion Ion a'i weision unasant
Yn thronau fil a tharanau o foliant,
Orwychaf fiwsig a ddyrchafasant—
"I dy gu enw, O! dod ogoniant!"
Y nefol lysoedd siglasant—teml Naf
Hyd gyrion isaf y byd grynasant.
Yn y fwyn berorfa honno—dau lais
Oedd dlysach yn seinio