Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mawl eu Ner, na'r miliwn o
Benceirdd oedd yn cydbyncio.

Adda ac Efa gyfion—yn Eden,
Roent y nodau mwynion:

Eu lleisiau hwy yn llys Ion—wnaent chwyddaw
Yn mhell uwch law i alaw angylion.

Duw lor uchel edrychodd,
Eu haberth fawl, bu wrth ei fodd;
A derbyniodd wirfoddawl
Offrymiad mwynfad eu mawl.
A'r hael Ior agorai 'i law,
Ei ddihalog ddeheulaw,

A thaenellai ei fendithion allan
Y dydd hwnnw i fedyddio anian.
Afon o fywyd ymlifai'n fuan,
Ymchwyddai, Íledai dros y byd llydan;
Dim dolur amhur yn unman—yn bod,.
Neb un i'w ganfod dan boen i gwynfan.

Awyr iach y ddaear hon—oedd beraidd,
Heb arogl clefydon,
Ar ei chwyl drwy'r uchelion—ymsïai;
Bywyd a chwiwiai drwy'r byd a'i chwaon.

Pob awel dawel deuai—â'i mwyniant,
Ei mynwes agorai;
A rhyw fawr drysawr didrai—'n haelionus,
O rad daionus a hyfryd daenai.

Gwenwyn, un defnyn nid oedd—yn natur,
Hon eto, iach ydoedd;
Angeu, a defnydd ingoedd—a gofid,
Hwy ni anesid, nac un o'u iasoedd.

Aroglion per a dreiglynt—ar dyner
Adenydd boreuwynt;