Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hyd ogylch y byd dygynt—rin dwyfol,
Bywyd anfarwol oedd dreiddiol drwyddynt.


Adda enwog oedd ynad—hedd anian,
Trwy ddoniau'r eneiniad,
A roddai Ion ar hardd iad
Y dyn, ddydd ei ordeiniad.

Gras a phurdeb, anfarwoldeb,
Yn ei wyneb—glân a wenent;
Hedd a chariad—yn ei lygad,
Mewn ymdoniad—mwyn ymd'w'nnent.

 
A llonaid ei enaid oedd
O nwyf, a hedd y nefoedd;
Ar amod, mewn cydrwymyn,
'Roedd cydfod Duwdod a dyn;
Ufudd-dod cu o du dyn,
Oedd y nefoedd yn ofyn, I
 nef,tra parai'n ufudd,
Cai wynfyd, bywyd, pob budd.


O tan yr amod honno—addewid
O'r ddaear roid iddo,
A'i holl luoedd i'w llywio
I'w lles wrth 'i ewyllys o.


Gŵyl o hedd fu 'r egwyl hon,
A chariad oedd ei choron;
Ni adwaenid trist wyneb,
Eilun o wg yn ael neb;
Ni welid dig gymylau tân,
Yn awr un yn awyr anian.
O'i lys, Cyfiawnder i lawr
Oddi ar ei orsedd eurwawr,
Edrychodd, gwelodd o gylch,
Trwy eigion natur ogylch;