Hen deyrnas Satan druenus eto
A oresgynnir, a daw rhwysg honno
I is agwedd, ei ben ga'i ysigo;
Ei orsedd enwir dynnir o dano
I lawr i annwn--fe'i teflir yno;
Rhyfeloedd gwaedlyd trwy 'r byd wnant beidio
E yrr efengyl eu twrf i angho',
A'i dylanwad y byd wna adlunio;
Dedwyddwch, heddwch iddo-a ddwg hon,
Yn loew afon o hyd i ymlifo.
II.
Am hirion faith dymhorau,
Had a chwyn y gelyn gau,
A dyfasant hyd feusydd y ddaear,
Gan ddwyn chwerwon ffrwythydd;
A meibion dynion bob dydd,
Dan eu cur yn dwyn cerydd.
Nodwyd cyntafanedig-dynoliaeth,
Do'n elyn mileinig
I heddwch; trodd Cain addig
O wydd Duw yn llofrudd dig.
E godai Nimrod gwed'yn,
Egr ei ddull, yn deigr o ddyn:
Y gwron hwnnw gryn ennyd,
Fu 'n poeni, 'n dibobli'r byd;
Heliwr, rhyfelwr a fu,
Mawr a thrwm am orthrymu.
Codai ereill cadarwyr
Yn y gwaith—fileinig wŷr,
O hyd, i feithrin a hau
Eu gwenwynig gynhennau;